AC yn pwyso am reilffordd newydd ym Môn

Dywedodd AC Ynys Môn ei fod yn gobeithio adeiladu ar y gwaith wnaeth ei ragfleynydd Ieuan Wyn Jones fel Gweinidog er mwyn pwyso am reilffordd newydd ym Môn.

Yn ystod cyfarfod llawn o’r Cynulliad ddoe, dywedodd Rhun:

“Roeddwn i’n falch iawn, rai dyddiau nôl, o weld Llywodraeth Cymru yn nodi gorsaf Llangefni fel un a allai gael ei hail-agor yn y dyfodol. Mae hyn yn deillio, wrth gwrs, yn uniongyrchol o’r gwaith a wnaeth fy rhagflaenydd i, Ieuan Wyn Jones, fel Gweinidog trafnidiaeth, yn comisiynu astudiaeth ddichonoldeb ar y potensial o ail-agor y lein o Gaerwen, drwy Langefni, i Amlwch.”

Ychwanegodd wedyn,

“Mae hwn yn rywbeth dwi’n gwybod a fyddai’n dod â budd economaidd mawr iawn i Ynys Môn, ac felly gofynais i’r llywodraeth am ddatganiad ynglŷn â’r gwaith ychwanegol sydd angen cael ei wneud rŵan er mwyn gallu troi y syniad cyffrous yma yn realiti.”