AC lleol yn cefnogi ymgyrch i GURO FFLIW

Mae Rhun ap Iorwerth yn annog pobl mewn grwpiau ‘risg’ i gael y brechiad ffliw rhad ac am ddim

Mae Rhun ap Iorwerth yn dangos ei gefnogaeth i ymgyrch flynyddol Iechyd Cyhoeddus Cymru i geisio cael mwy o bobl ‘mewn risg’ i gael eu brechu er mwyn eu rhwystro rhag mynd yn sâl/dost gyda ffliw, salwch sy’n eich gwanhau’n ddifrifol ac sy’n gallu lladd.

Mae Rhun, sy’n cynrychioli Ynys Môn, yn ymuno â’r galwadau sy’n cael eu gwneud gan elusennau a gweithwyr iechyd proffesiynol ac mae’n annog pobl 65 oed neu hŷn, cynhalwyr, menywod beichiog a phobl a chanddynt rai mathau o salwch cronig neu hirdymor i wneud apwyntiad gyda’u meddyg teulu lleol a chael y brechlyn ffliw rhad ac am ddim.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Mae rhaglen brechu rhag ffliw fawr ar waith ledled Cymru i gynnig brechlynnau rhad ac am ddim i unigolion sy’n wynebu’r perygl mwyaf o ddioddef cymhlethdodau difrifol o ffliw, a’m neges i iddyn nhw yw ‘Curwch ffliw cyn iddo’ch curo chi!’

Y llynedd yng Nghymru dim ond hanner (49.3%) y bobl dan 65 mlwydd oed mewn grwpiau ‘risg’ a fanteisiodd ar eu brechiad GIC rhad ac am ddim, ac mae mawr angen inni gynyddu’n sylweddol faint o bobl sy’n cael eu brechu er mwyn atal y salwch hwn y gellir ei rwystro i raddau helaeth rhag lledu.”

Dywedodd Dr Richard Roberts, Pennaeth Rhaglen Heintiau y Gellir eu Hatal trwy Frechlyn yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Mae brechlyn ffliw rhad ac am ddim ar gael i bobl mewn grwpiau risg, sy’n cynnwys pobl 65 oed neu drosodd, pobl a chanddynt gyflyrau iechyd hirdymor sy’n golygu fod ganddynt fwy o risg o gael ffliw, menywod beichiog yn ogystal â phob plentyn dwy i chwe mlwydd oed.”

Ychwanegodd Dr Roberts: I’r rhan fwyaf o bobl, mae ffliw fel arfer yn salwch cymharol ddibwys, er yn annymunol ac anghyfleus. Ond bob blwyddyn gall ac mae pobl fregus yn marw o ffliw a’i lu o gymhlethdodau.”

Mae’n bosib atal ffliw trwy frechiad syml, diogel ac effeithiol bob blwyddyn sy’n cael ei gynnig yn rhad ac am ddim gan feddygon teulu ac mewn rhai fferyllfeydd cymunedol i bawb sy’n cael eu hystyried yn bobl ‘mewn risg’. Mae gan gleifion o’r fath y risg o gael haint difrifol ac ergydion i’w hiechyd o ffliw ar ben eu cyflwr ar y pryd, er bod modd osgoi hynny.

Caiff firws y ffliw ei wasgaru trwy ddiferion sy’n cael eu chwistrellu i’r awyr pan mae person sydd wedi’i heintio yn pesychu neu’n tisian. Mae cyswllt uniongyrchol â dwylo neu arwynebau a heintiwyd hefyd yn gallu gwasgaru’r haint. Gall ledu’n gyflym iawn, yn enwedig felly mewn cymunedau caeëdig fel ysbytai, cartrefi preswyl ac ysgolion.

Ymhlith y grŵp mwyaf o gleifion ‘risg’ mae pobl o bob oed a chanddynt systemau imiwnedd wedi’u gwanhau oherwydd clefyd neu driniaeth â chyffuriau penodol, megis rheini sy’n derbyn triniaeth canser neu gyflyrau fel arthritis gwynegol difrifol. Caiff y rheini sydd 65 neu’n hŷn, neu fenywod beichiog, eu targedu hefyd.

Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysol, ac os nad ydych yn siŵr, cynghorir cleifion a chanddynt broblemau iechyd sylfaenol i ofyn i’w meddyg teulu neu weithwyr iechyd proffesiynol a ydynt yn gymwys.

Dyma’r flwyddyn gyntaf y mae plant pump a chwech oed wedi’u cynnwys yn ymgyrch tymhorol brechu ffliw GIC, ac fe’i cynigir fel chwistrell drwynol i blant sydd 2 mlwydd oed neu’n hŷn. Cynigwyd y brechlyn i blant dau a thair blwydd oed am y tro cyntaf dwy a blynedd yn ôl, gyda phlant pedair blwydd oed yn ymuno’r llynedd. I blant dwy a thair blwydd oed, bydd y brechlyn yn cael ei ddarparu gyda’i Meddyg Teulu, ond i blant dosbarth derbyn a blynyddoedd 1 a 2 caiff ei ddarparu gan weithiwr iechyd yr ysgol.

Gall darllenwyr gael gwybod mwy am sut i gael eu brechlyn rhad ac am ddim trwy fynd i www.beatflu.org.uk neu www.curwchffliw.org.uk, neu trwy ddod o hyd i Beat Flu neu Curwch Ffliw ar twitter a facebook.