AC am sbarduno chwyldro CT yng Nghymru

Wrth gyflwyno ei gynnig am Fil Cynllunio Gwefru Cerbydau Trydan yn y Cynulliad Cenedlaethol yr wythnos hon, mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn parhau i arwain yr ymgyrch am well seilwaith CT wrth iddo annog Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn mwy o bwyntiau gwefru ledled Cymru.

Mae AC Plaid Cymru yn cynnig deddfwriaeth yn Siambr y Cynulliad ddydd Mercher fyddai’n cyflwyno canllawiau cynllunio ar gyfer datblygiadau newydd, er mwyn sicrhau bod yn rhaid i bob adeilad newydd gynnwys pwyntiau gwefru cerbydau trydan, fyddai’n ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio CT, ac yn lleihau allyriadau carbon Cymru.

Mae Rhun ap Iorwerth AC wedi lleisio ei bryder dro ar ôl tro dros y misoedd diwethaf ynghylch diffyg arloesedd ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru o ran datblygu seilwaith sylweddol o bwyntiau gwefru CT yng Nghymru, gan alw adroddiad diweddar, oedd yn datgelu mai dim ond 31 o bwyntiau gwefru sy’n cael eu cyllido’n gyhoeddus sydd yng Nghymru gyfan, yn adlewyrchiad ‘cywilyddus’ at ymdrechion Llafur Cymru ar CT.

Wrth amlinellu ei weledigaeth a’r rhesymeg y tu ôl i’r bil arfaethedig, dywedodd Rhun ap Iorwerth AC,

“Byddai’r Bil hwn, o’i basio, yn rhoi cyfle i Gymru o’r diwedd ddechrau cystadlu o ran seilwaith i gerbydau trydan. Ar hyn o bryd, rydym mor bell ar ôl gweddill y DG, a hynny oherwydd diffyg ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weld bod y dechnoleg yn cael ei mabwysiadau yn gyflymach.

“Mae Llywodraeth yr Alban wedi dangos ymrwymiad sylweddol at CT, ac y mae Cyngor Dinas Dundee, er enghraifft, yn caniatáu i berchenogion CT ddefnyddio eu meysydd parcio a’u pwyntiau gwefru am ddim, ac y mae ganddynt fwy o gerbydau trydan yn fflyd eu cyngor nac unrhyw gyngor arall yn y DG.

“Does dim rheswm pa na all Cymru ddangos yr un uchelgais, petai’r Llywodraeth ond yn ymrwymo i fuddsoddi yn y dechnoleg wych hon. Rwyf wedi gweld drosof fy hun gymaint o awydd sydd ledled Cymru am CT, a’r unig beth sy’n dal y cyhoedd yn ôl rhag tanio’r chwyldro a buddsoddi mewn CT yw’r diffyg rhwydwaith gwefru sylweddol.

“Llwyddodd Plaid Cymru i gael £2m i’w fuddsoddi mewn pwyntiau gwefru yn y fargen ddiweddaraf ar y gyllideb, sy’n dangos ymrwymiad ein plaid i ddatblygu seilwaith CT , a phetai fy nghynnig i am ddeddfwriaeth yn cael ei basio, byddai’n gwneud iawn am yr amser a gollwyd gan Lywodraeth Cymru ac yn galluogi Cymru i arwain y maes mewn technoleg CT yn y dyfodol.”