Cwestiynnu craff gan Ysgol y Parc

Cyfarfu AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth gyda disgyblion o Ysgol y Parc, Caergybi, yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw.

Cafodd Rhun sgwrs gyda nhw yn Oriel Gyhoeddus siambr y Cynulliad am ei rôl fel Aelod Cymulliad, sut y gallent hwy gymryd rhan, ac wrth gwrs, am y tîm pêl-droed cenedlaethol! Dywedodd Rhun:

“Roedd yn bleser cael croesawu disgyblion Ysgol y Parc i’r Senedd, a chael dangos sedd Ynys Môn yn y Cynulliad iddynt.

“Roedd yn amlwg fod y disgyblion yn wybodus iawn am waith y Cynulliad ac roedd ganddynt gwestiynau da iawn i mi – am ba ardal dwi’n gynrychioli, be fuo ni’n drafod yn y Senedd yr wythnos honno, ac am fy hoff dim pel-droed! 

“Roedd hi’n wych hefyd gweld eu bod nhw, yn 10 mlwydd oed hyd yn oed, yn edrych ymlaen at gael pleidleisio pan yn 18.  Diolch i chi Ysgol y Parc – am eich cwestiynnau, am eich brwdfrydedd, ac am y nifer o hunluniau a gawsom!”

selfie