Croesawu cyhoeddiad i greu Senedd Ieuenctid

Mae Rhun ap Iorwerth AC wedi croesawu’r cyhoeddiad gan y Llywydd fod Comisiwn y Cynulliad wedi cytuno i sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru.

Bydd y senedd newydd yn cynnal ei etholiadau cyntaf ym mis Tachwedd 2018. Bydd yn cynnwys 60 aelod a bydd aelodau rhwng 11 a 18 oed.

Mae’r Comisiwn wrthi yn pennu dyddiad er mwyn cofrestru i bleidleisio dros Aelodau Senedd Ieunectid Cymru ac yn edrych ar y manylion ynghylch pryd a sut y gall pobl ifanc gynnig eu hunain i fod yn Aelod.

Dywedodd Aelod Cynulliad Ynys Môn, sydd wedi bod yn gefnogol iawn o’r syniad o Senedd Ieuenctid i Gymru:

“Mae sefydlu Senedd Ieuenctid yn rywbeth dwi’n teimlo’n frwdfrydig iawn amdano. Bydd yn rhoi’r cyfle nid yn unig i bobl ifanc leisio’u barn ond hefyd i godi ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc o’r system wleidyddol a seneddol sy’n cael effaith ar eu bywydau.”

Ychwanegodd Gwion Rhisiart, 13 oed, a gymrodd ran yn yr ymgynghoriad ar y syniad o Senedd Ieuenctid ac a fu’n treulio diwrnod gyda Rhun yn y Cynulliad heddiw:

“Rwy’n falch iawn y bydd gan Gymru Senedd Ieuenctid oherwydd bydd nawr gan bobl ifanc Cymru eu barn ar faterion a fydd yn effeithio arnynt.”