Creu Cyffro am Bŵer Morol

Mae Minesto, y cwmni tu ôl i’r cynllun ynni’r llanw arfaethedig newydd yng Nghaergybi yn dweud bod y dyfodol yn edrych yn ddisglair iddyn nhw gyda datblygiadau cyffrous ar Ynys Môn. Ariennir prosiect Minesto ar Ynys Môn yn rhannol drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Bu AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn ymweld â’u swyddfeydd newydd yn Nhŷ Stena yng Nghaergybi yr wythnos diwethaf, a dywedwyd wrtho fod eu cynlluniau yn mynd rhagddo’n dda ar gyfer gosod eu prif ‘barcud’ tanddwr y flwyddyn nesaf.

Y bwriad yw gosod trefn y gallai gynhyrchu 10 MW o drydan – digon i bweru 8,000 o gartrefi erbyn 2020, gan greu nifer o gyfleoedd cyflogaeth yng Nghaergybi.

Dywedodd Mr ap Iorwerth, sydd hefyd yn Weinidog Cysgodol dros yr Economi i Blaid Cymru:

“Dyma arloesi gwirioneddol, a gellai Môn fod ar flaen y gad gyda thechnoleg newydd y gellir ei allforio ledled y byd. Gall y moroedd sydd o’n hamgylch fod yn ffynhonnell o dwf economaidd gwirioneddol yn y degawdau nesaf pan fydd y byd yn chwilio am fwy a gwell ffyrdd o gynhyrchu ynni glân, adnewyddadwy.”

“Rwy’n falch bod Minesto wedi dewis sefydlu eu pencadlys yma ac yn harneisio sgiliau ein gweithlu lleol yn ogystal â grym y moroedd oddi ar ein harfordir.”