Dadl ar waed halogedig – dioddefwyr a’u teulu yn haeddu cyfiawnder

Roeddwn yn falch o gael cyd-gyflwyno dadl yn y Cynulliad yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn i drychineb gwaed halogedig y 1970au a’r 1980au. Ar y sgriniau yn siambr y Cynulliad, roedd enwau rhai o’r 70 sydd wedi marw o ganlyniad yng Nghymru. Dyma fy araith i yn y ddadl honno ddoe:

Mae’r hyn rydym ni’n gofyn amdano fo y prynhawn yma yn syml iawn, iawn. Fel yr ydym ni wedi ei glywed, mi gafodd 283 o bobl yng Nghymru eu heintio efo hepatitis C neu HIV ar ôl derbyn cynnyrch gwaed wedi’i heintio yn y 1970au a’r 1980au. Mae 70 o’r rheini wedi marw bellach. Mae eu henwau, unwaith eto, i’w gweld ar y sgriniau o gwmpas y Siambr yma, a’r tu ôl i bob enw, mae yna unigolyn a wnaeth orfod byw bywyd yn dioddef salwch a stigma drwy ddim o’u bai eu hunain. A’r tu ôl i bob enw, mae yna deuluoedd sydd wedi gorfod galaru drwy ddim o’u bai eu hunain.

Yn y grŵp trawsbleidiol ar waed wedi’i heintio, rydym ni wedi clywed disgrifiadau pwerus o brofiadau dioddefwyr a’u teuluoedd. Nid yn unig symptomau meddygol ac effaith gorfforol yr heintiau ond hefyd yr effaith seicolegol arnyn nhw a’u teuluoedd a’u ffrindiau, am ragfarnau pobl tuag atyn nhw pan oedden nhw’n dweud bod ganddyn nhw HIV neu hepatitis C, ac euogrwydd y rhai ohonyn nhw a oedd wedi heintio gwŷr, gwragedd neu fabanod yn ddiarwybod. Oherwydd hynny, ffactorau fel hyn, mae llawer wedi dewis dioddef yn dawel. Ond i ddwysáu’r dioddefaint, mae Llywodraeth ar ôl Llywodraeth hefyd wedi dewis aros yn dawel a gwrthod datgelu neu fynd at wraidd beth yn union aeth o’i le a pham. Mae dioddefwyr a’u teuluoedd yn haeddu cael gwybod ac maen nhw’n haeddu cael cyfiawnder.

Un o ganlyniadau’r diffyg atebion a’r diffyg canfyddiad o beth aeth o’i le ydy’r diffyg trawiadol, fel rydym wedi clywed y prynhawn yma gan sawl Aelod, yn y pecyn o iawndal sy’n cael ei dalu i ddioddefwyr a’u teuluoedd. Nid yw’r galwadau yma heddiw am ymchwiliad yn cymryd lle’r galwadau am well pecyn cymorth ariannol i ddioddefwyr. Rydw i’n reit siŵr bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn clywed hynny. Yn sicr ni ddylai ymchwiliad cyhoeddus llawn fod yn ffordd i alluogi’r Llywodraeth i ohirio, ymhellach, gwneud setliad cyfiawn i’r bobl a effeithiwyd.

Yn dilyn ymchwiliad Penrose yn yr Alban yn 2005, mi gyflwynodd Llywodraeth yr SNP system newydd well a thecach o gefnogaeth ariannol, am eu bod nhw’n credu bod gan Lywodraeth yr Alban gyfrifoldeb moesol i wneud hynny. Gadewch i ni yma hefyd gefnogi galwadau am ymchwiliad, ond un llawnach, fel cam tuag at roi’r gefnogaeth haeddiannol i ddioddefwyr yng Nghymru hefyd, yn ogystal â’u teuluoedd.

Gadewch imi ddyfynnu un o’m hetholwyr i, sydd â’i wraig, Jennifer, yn dioddef o hepatitis C. Mi gafodd ei heintio yn y 1970au. Dyma a ddywedodd o:

‘In the 14 years since she has become ill, she’s been unable to do most of the things she did before. In the early days, she was so debilitated that she could not cook; could walk only a short distance; could not drive; found it difficult to understand basic things; she needed help washing and dressing. She has improved slowly, but 12 years later, she still suffers from chronic fatigue, usually spending most afternoons asleep. She cannot cope with day-to-day housework and cooking, but she tries to do some, often making mistakes.’ Crucially, he says,
‘In her words, she never has a good day; just bad or very bad’.

I’ve met Jennifer and her husband on a number of occasions. I’ve been struck by their dignity; dignity in the face of what they have had to endure in terms of their health and in the face of an unjust compensation structure, and of too many unanswered questions. Seventy of the 283 contaminated in Wales are no longer with us. You’ve seen their names in the Chamber today. We owe it to them and we owe it to all those still living with the consequences of the contaminated blood scandal to seek answers, once and for all. For justice, support today’s motion.