Colofn Rhun yn yr Holyhead and Anglesey Mail 25 11 15

Roedd hi’n Ddiwrnod Mentrau Cymdeithasol ddydd Iau diwethaf, rhan o’r Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang, ac i’w nodi, bûm yn ymweld â Chanolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi ac Ynys Môn (HAWFC). Diolch i Ray Williams am y croeso ac i’w dad Doug a gododd gywilydd arnai gyda’i nerth a’i benderfyniad!

Mae’r gampfa, sydd wedi cynhyrchu llawer o bencampwyr, yn ased gwirioneddol i Gaergybi ac Ynys Môn, ac yr oedd yn bleser i allu cefnogi’r gwaith y maent yn ei wneud. Mae HAWFC yn enghraifft wych o fenter gymdeithasol sydd yn gwneud cyfraniad enfawr at ei gymuned.

Cefais y cyfle i longyfarch enillwyr eraill o Ynys Môn hefyd yn ddiweddar, wrth i gynhyrchwyr o bob rhan o Gymru gael eu hanrhydeddu yng Ngwobrau Great Taste yng Nghaerdydd. Fe wnaeth menyn rysáit Melyn Môn, Caws Rhyd y Delyn a Halen Môn pob un dderbyn sêr aur am eu cynnyrch. Roedd yn wych i glywed am eu llwyddiant ac i sgwrsio am gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol.

Yn y Cynulliad Cenedlaethol, lansiodd Coleg Brenhinol Meddygon Teulu eu maniffesto cyn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf. Yn ystod y lansiad, trafodais fy nymuniad i weld mwy o feddygon yn cael eu hyfforddi yn y gogledd i helpu gyda materion recriwtio. Cadarnhaodd cynrychiolwyr RCGP bod meddygon sydd yn gwneud eu hyfforddiant mewn lleoliadau gwledig megis Ynys Môn yn fwy tebygol o aros yma.

Yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog, pwysleisiais y rhwystredigaeth a deimlir gan ddefnyddwyr yr A55. Mae’n teimlo pan fydd un darn o waith yn cael ei gwblhau ar y ffordd fod darn arall o waith ffordd ar fin cael ei ddechrau! Mae diogelwch a chynnal y ffordd yn hanfodol wrth gwrs, ond gofynnais i’r Llywodraeth fod yn llawer iawn mwy rhagweithiol yn y ffordd y maen nhw yn hysbysu pobl sy’n defnyddio’r A55 ynglŷn â gwaith sydd yn digwydd, ac sydd yn mynd i fod yn digwydd yn y dyfodol, fel bod pobl yn gallu cael gwell darlun o’r hyn sy’n mynd i fod yn digwydd ar y ffordd i’r dyfodol.

Yn olaf, roedd pob ffordd yn arwain at Langefni ddydd Sadwrn i’r rhai oedd am ddangos ein bod yn gymdeithas oddefgar, heddychlon. Bu cannoedd yn cymryd rhan mewn rali liwgar, gadarnhaol.

Mae rhyddid barn yn bwysig iawn i ni, ac mae’n egwyddor sy’n bwysig i mi fel newyddiadurwr. Fodd bynnag os oes gennym brotestiadau sydd yn codi ofn ar bobl, dylid gwneud popeth i gyfyngu ar faint mae’n darfu ar dref. Roedd llawer yn ofni’r rali adain chwith eithafol ddydd Sadwrn. Yn y pen draw, roedd Ynys Môn ar ei gorau.