Colofn Rhun i’r Holyhead and Anglesey Mail 24 05 17

Dydd Llun oedd y cyfle olaf i bobl gofrestru i bleidleisio yn yr etholiad ar Fehefin 8fed. Bydd llawer gormod wedi colli’r dyddiad cau, ac mae’n rhaid i ni barhau i bwyso’r neges: heb bleidlais, nid oes gennych lais. Mae cael pobl i gymryd rhan a chyfrannu i wleidyddiaeth yn rybweth y dylem fod yn ei annog o oedran ifanc.

Yn Ysgol Uwchradd Bodedern yn ddiweddar, cefais gyfle i drafod y syniad o Senedd Ieuenctid i Gymru gyda disgyblion. Mae’r Cynulliad yn ymgynghori am hyn ar hyn o bryd, ac mae’n bwysig fod pobl ifanc yn rhan o’r broses o’r cychwyn cyntaf.

Byddai Senedd Ieuenctid nid yn unig yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc fynegi eu barn ond hefyd yn codi ymwybyddiaeth am y systemau gwleidyddol a seneddol sy’n effeithio ar eu bywydau. Yn bennaf oll byddai’n rhoi dylanwad i bobl ifanc.

Ba am i chithau hefyd gael dweud eich dweud? Rhannwch eich sylwadau drwy’r wefan www.seneddieuenctid.cymru

Mae hi hefyd yn bwysig fod pobl ifanc yn cael blas o fyd gwaith a dyna pam yr oeddwn i’n rhannu siomedigaeth nifer o fyfyrwyr a rhieni ar ôl iddynt gael clywed na fyddai profiad gwaith yn cael ei gynnig i ddisgyblion blynyddoedd 10 a 12 eleni. Mae hyn yn deillio o benderfyniadau Llywodraeth Cymru ynglyn â rôl a chyllid ‘Gyrfaoedd Cymru’, y corff a oedd yn arfer gwirio addasrwydd lleoliadau profiad gwaith. Roedd cynrychiolwyr byd addysg yn rhybuddio ar y pryd y gallai hyn roi profiad gwaith mewn peryg, gan roi ein pobl ifanc o dan anfantais.

Rydw i wedi ysgrifennu at Lywodaeth Cymru i ofyn iddyn nhw wneud popeth allen nhw i sicrhau fod profiad gwaith yn gallu parhau. Gydag ysgolion yn dweud nad oes ganddyn nhw’r capasiti i wirio lleoliadau eu hunain, mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd ymlaen.

Mae profiad gwaith yn hanfodol – nid yn unig yn rhoi blas o’r gweithle i ddisgyblion ac o’r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw yn lleol, ond mae hefyd o gymorth mewn adeiladu eu hunan-hyder a’u sgiliau. Rydw i wedi gweld hynny yn y disgyblion syddd wedi dod am brofiad gwaith yn fy swyddfa i. Byddaf yn parhau i bwyso fel bod myfyrwyr Môn ddim yn colli allan.

Yn olaf, dwi’n aml yn canu clod sector bwyd a diod Môn yma yn fy nghofoln ac yn siambr y Cynulliad. Roeddwn yn falch yr wythnos hon o’i weld yn cael mwy o sylw fyth wrth i chef y Marram Grass, Ellis Barrie ragori ar y gyfres ‘Great British Menu’, gan ddefnyddio cynnyrch lleol gwych fel llymarch ‘Menai Oysters’. Rwy’n siwr ein bod ni i gyd yn dymuno’r gorau iddo yn y rownd derfynol.