Colofn Rhun i’r Holyhead and Anglesey Mail 28 10 15

Mae dwy nodwedd bwysig i’n rôl i fel Aelod Cynulliad. Yn gyntaf, gwneud yn siŵr bod etholwyr yn gallu dod ata i i drafod unrhyw fater sy’n effeithio arnyn nhw neu ar eu cymuned leol. Yn ail, i fod yn agored am y gwaith rwy’n wneud yma ar Ynys Môn ac yn y Cynulliad yng Nghaerdydd.

Yr wythnos diwethaf, fe agorais fy swyddfa etholaeth newydd yn Llangefni ar 1b Stryd yr Eglwys.  Mae’r adeilad yn cael ei rannu gyda swyddfa Plaid Cymru ar yr ynys ac mae hefyd yn safle yn y gogledd-orllewin i’r Aelod Seneddol Ewropeaidd dros Gymru, Jill Evans. Mae’r swyddfa newydd felly yn leoliad i’ch cynrychiolwyr Plaid Cymru lleol i gyd yn yr un lle.

Hefyd, mae gen i wefan newydd sydd nawr ar-lein: www.rhunapiorwerth.cymru. Mae’n cynnwys manylion o’r cymorthfeydd etholaeth rwy’n eu cynnal ledled yr ynys ac yn rhoi gwybodaeth am y gweithgareddau a’r ymgyrchoedd diweddaraf ar yr ynys ac yn y Senedd.

Un o’r ymgyrchoedd hynny yw’r ymgyrch i wrthwynebu adeiladu peilonau trydan uwchben y tir ar Ynys Môn. Mae’r Grid Cenedlaethol wedi cychwyn eu ymgynghoriad ar y cynllun ac mae’n bwysig bod pobl Ynys Môn yn parhau i leisio eu gwrthwynebiad i’r peilonau uwchben newydd. Mae ceblau tanddaearol a tanforol yn digwydd mewn ardaloedd eraill, gan gynnwys Eryri a’r Peak District, felly pam ddim yma, ar Ynys Môn hefyd?!

Yn y Cynulliad yr wythnos diweddaf, cefais y cyfle i ofyn i Brif Weinidog Cymru sut oedd y llywodraeth am adnewyddu ffydd pobl Ynys Môn yn eu gwasanaeth ambiwlans ar ôl y digwyddiad ym Mhorthladd Caergybi, lle roedd dyn yn disgwyl am awr a hanner cyn i ambiwlans ei gludo i’r ysbyty ar ôl dioddef trawiad posib ar ei galon. Rwy’n fwy a mwy pryderus am y straen sydd ar staff galluog a gwych y gwasanaeth ambiwlans a’u gallu i ddarparu gwasanaeth fel y maent wedi eu hyfforddi i’w gwneud ac eisiau ei gynnig i’r cyhoedd. Rwyf wedi gofyn am eglurhad o beth aeth o’i le.

Yn fy araith yng Nghynadledd Plaid Cymru dros y penwythnos, fe bwysleisiais pwysigrwydd adnabod a chredu ym mhotensial economaidd Cymru ond hefyd yr angen sydd arnom ni i gael strategaeth glir gyda ffocws i wthio ymlaen ein potensial – rhywbeth nad yw’r llywodraeth Lafur wedi llwyddo i wneud.

Ar drip diweddar i’r Iwerddon gyda Phwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad, fe siaradom gyda Gweinidogion yno am wneud y gorau o’n moroedd a’n harfordiroedd o ran egni, masnach, twristiaeth a bwyd, er enghraifft. Fel AC ar ynys, fe allaf weld y potensial. Felly, gadewch i ni greu strategaeth i wneud y gorau o beth sydd o’n hamgylch ni!