Colofn Rhun i’r Holyhead and Anglesey Mail 25 04 18

“Gwenwch!” Yn eu lycra, fe gymerodd grŵp o feicwyr anhygoel lun cyn iddynt ddechrau eu taith o Ynys Môn i Gaerdydd, ac ymunais â nhw i ddymuno’n dda iddynt. Byddai meddwl am daith 200 milltir yn ddigon i wneud i lawer grio yn hytrach na gwenu! Fodd bynnag, dwi wedi gwneud y daith fy hun, ac yn gwybod teimlad mor braf ydy hi i gyrraedd pen y daith – yn enwedig ar ôl codi arian neu ymwybyddiaeth ar gyfer achos da.

Yn yr achos yma, yr Hosbis Dewi Sant newydd sy’n cael ei agor yn Ysbyty Penrhos Stanley yng Nghaergybi. Roedd Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Lyndon Miles, ymhlith y beicwyr. Ers agor ym 1998, mae Hosbis Dewi Sant yn Llandudno wedi darparu’r gofal lliniarol gorau posibl i filoedd o bobl yn Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy. Nawr, bydd y gofal hwnnw’n cael ei gynnig yn nes at y cartref i bobl ar Ynys Môn. Rwy’n ddiolchgar i dîm Dewi Sant am eu hymrwymiad i’r ynys.

Fe wnes i’r daith i Gaerdydd mewn ffordd llawer llai blinedig, lle roeddwn i’n gallu rhoi nifer o faterion Ynys Môn ar yr agenda. Gofynnais i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd egluro pam mae staff sy’n monitro Afon Cefni i helpu i gynllunio amddiffynfeydd llifogydd newydd wedi cael eu symud i ddyletswyddau eraill. Nid yw’n ddigon da – mae angen atebion i’r bygythiad llifogydd gyda brys, yn Llangefni ac mewn mannau eraill.

Hefyd yn gysylltiedig â’r tywydd, rydym yn dal i ddelio ag effeithiau Storm Emma. Ar ôl dinistr y Marina, rwy’n falch o ddweud ein bod yn nesau at gyfarfod cyntaf Grŵp Defnyddwyr Porthladd Caergybi, y byddaf yn cyd-gadeirydd gydag AS yr ynys. Fe wnes i ymweld â Moelfre yr wythnos diwethaf i weld effeithiau’r storm yno hefyd. Byddaf yn helpu i gysylltu â’r awdurdod lleol ynghylch yr hyn sydd angen ei wneud i ddelio gyda’r effaith a gafodd y storm ar draeth y pentref.

Yn olaf – fe darodd storm wleidyddol Bae Caerdydd yr wythnos diwethaf gyda Llywodraeth Cymru Lafur yn bygwth mynd a’r Cynulliad i’r llys i’w atal rhag trafod adroddiad sy’n gysylltiedig â marwolaeth yr AC Carl Sargeant. Cefais fy siomi’n fawr gyda chamau gweithredu’r Llywodraeth. Mae’r Cynulliad yno i ddal y Llywodraeth i gyfrif – nid y ffordd arall rownd!

Wedi dweud hynny, efallai y bydd yn help gyda’r dasg bwysig o helpu pobl i wahaniaethu rhwng y Cynulliad a’r Llywodraeth. Y Cynulliad yw llais democrataidd Cymru. EICH llais CHI. Ac mae’n rhaid i’r Llywodraeth – y gellir ei newid mewn unrhyw etholiad – ei barchu bob amser.