Colofn Rhun ap Iorwerth i’r Holyhead and Anglesey Mail 11 11 15

Mae’r rhai ohonom sy’n defnyddio’r pontydd i’r ynys yn rheolaidd yn fwy na chyfarwydd â phroblemau tagfeydd. Yn ogystal â phwyso am drydedd bont ar draws y Fenai, yr wyf hefyd wedi gofyn i’r Gweinidog Trafnidiaeth edrych ar system 3 lôn fel mesur tymor byr. Fodd bynnag, yr wythnos diwethaf, ysgrifennodd ataf i ddweud nad yw’n cael ei archwilio ymhellach oherwydd pryderon diogelwch. Dywedodd, fodd bynnag, y byddai yn ceisio achos busnes dros gael trydedd bont er mwyn mynd i’r afael â materion thagfeydd.

Dim ond rhan o’r broblem yw’r oedi yn y bore a gyda’r nos ac yn ystod adegau prysur eraill. Mae hefyd yn ymwneud â gwytnwch a diogelu ar gyfer y dyfodol. Mae’r bont dwy lôn yn dueddol o gael ei chau mewn gwyntoedd uchel ac mae’r gwasanaethau brys yn arbennig yn poeni am hynny. Byddai cael Môn wedi’i thorri i ffwrdd hefyd yn niweidiol yn economaidd. Nawr yw’r amser i weithredu a chael ymgyrch fawr ar gyfer trydedd bont.

Fe gysylltodd nifer ohonoch gyda mi yn ystod ymgynghoriad Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar wasanaethau mamolaeth yng ngogledd Cymru, gan rannu fy ngwrthwynebiad i unrhyw gynnig i israddio’r gwasanaeth yn Ysbyty Gwynedd.

Mae cyfarfod cyhoeddus yn awr yn cael ei gynnal yng Nghlwb Rygbi Bangor ar ddydd Iau (12 Tachwedd) i drafod y pryderon cynyddol ynghylch colli gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd a’r effaith cynyddol gallai hynny ei gael ar wasanaethau eraill yn yr ysbyty. Dewch draw os ydych yn gallu. Mae’n bwysig bod y Bwrdd Iechyd yn ymwybodol o gryfder y teimlad ar y mater hwn ac o’r nifer o resymau pam mae angen i ni gadw gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Gwynedd er mwyn diogelu mamau a babanod.

Mae wedi bod yn bleser cael llongyfarch pobl ifanc o Ynys Môn dros yr wythnosau diwethaf. Roedd fersiwn ysgolion o Les Miserables, a berfformiwyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, yn ardderchog, ac yn brofiad gwych i’r rhai o Ynys Môn a oedd yn cymryd rhan, rwy’n siŵr. Yn ogystal, enillodd Gwen Elin o Fenllech Wobr Ysgoloriaeth Bryn Terfel, ac enillodd Steffan Lloyd Owen o Bentre Berw Fwrsariaeth Kathleen Ferrier ar gyfer Cantorion Ifanc. Yn sicr mae gennym gyfoeth o dalent ar yr ynys.