Colofn i’r Mail 11/3/2020 – Coronafirws

Mae’r newyddion am y coronafirws yn achos pryder i nifer o fy etholwyr. Fe wnaf i fy ngorau felly i rannu unrhyw wybodaeth a roddir i mi gyda chi, a allai efallai helpu i leddfu rhai pryderon, a gall hynny helpu i’ch amddiffyn chi a’ch teulu.

Fel Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru rwy’n derbyn sesiynau briffio rheolaidd gan Lywodraeth Cymru, a’r wythnos diwethaf, fel aelod o Bwyllgor Iechyd y Cynulliad, llwyddais i holi Prif Swyddog Meddygol Cymru, yn ogystal ag uwch arweinwyr GIG Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Y peth cyntaf i’w ddweud ydy fy mod i’n deall pryderon pobl. Mae gen i deulu hefyd, ac fel chi rydw i eisiau gallu arfogi fy hun gyda’r wybodaeth orau y gallwn ni gael ein dwylo arni. Mae angen i ni wneud hyn er mwyn gallu gofalu amdanom ein hunain a’r rhai sy’n annwyl i ni, boed hynny’n blentyn, neu’n rhiant neu’n berthynas hŷn efallai.

Y cyngor diweddaraf (ar nos Lun) gan Lywodraeth Cymru oedd ei bod yn ymddangos bod y mwyafrif o achosion yn rai ysgafn. Ond wrth gwrs, fel gyda llawer o firysau, gall achosi symptomau mwy difrifol ymysg grwpiau mwy agored i niwed, gan gynnwys y rhai â chyflyrau iechyd hirdymor eraill.

Mae’n bwysig ein bod ni’n talu sylw i’r cyngor yr ydym yn ei gael. Synnwyr cyffredin ydy peth ohono. Golchwch eich dwylo yn aml. Defnyddiwch ‘tissue’ os ydych chi’n pesychu neu’n tisian, ac yna ei roi yn y bin sbwriel. A cheisiwch osgoi cyffwrdd â’ch wyneb.

Yna mae yna rai cyfarwyddiadau mwy caeth, er enghraifft i hunan-ynysu os ydych chi wedi ymweld â rhai ardaloedd yn ddiweddar, symptomau neu beidio, neu i gadw draw oddi wrth bobl eraill os oes gennych chi symptomau ar ôl dychwelyd o leoliadau eraill.

Mae’n debygol y bydd deddf newydd yn cael ei phasio i roi mwy o bwerau i awdurdodau geisio rheoli neu ohirio lledaeniad y firws. Byddaf yn ceisio dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am y cynlluniau hynny, ac ar faterion fel sicrhau bod gweithwyr iechyd yn cael y gefnogaeth a’r adnoddau angenrheidiol i drin eraill a chadw eu hunain yn ddiogel. Rwyf wedi clywed rhai pryderon ac mae angen i gamau gan y Llywodraeth fod mor effeithiol â phosibl.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn diweddaru gwybodaeth a chyngor ar-lein yn rheolaidd. Rydw i wedi creu’r llwybr byr hwn i’ch helpu chi i ddod o hyd iddo: tinyurl.com/phwcovid19

Mae’n cynnwys y wybodaeth a’r atebion diweddaraf i Gwestiynau Cyffredin. Rwy’n sylweddoli na fydd gan lawer o bobl fynediad i’r rhyngrwyd, felly efallai y gallai ffrind neu aelod o’r teulu ofyn am atebion ar y wefan ar eich rhan os oes gennych unrhyw gwestiynau. Os na fedrwch wneud hynny, er na all fy swyddfa roi cyngor iechyd, os ydych chi am i’m tîm drosglwyddo’r wybodaeth a’r cyngor diweddaraf o’r wefan i chi, ffoniwch ni ar 01248 723599.