Colofn i’r Chronicle 10/1/2019 – Blwyddyn Newydd Dda!

Blwyddyn Newydd Dda!

Mae dechrau pob blwyddyn newydd yn amser i edrych ymlaen ar y flwyddyn o’n blaenau. Rydym yn wynebu cyffordd, a rhaid penderfynu pa ffordd yr ydym am fynd ymlaen. Beth yrasom ni at y gyffordd hon, yw pleidlais ddigwyddodd yn ôl ym mis Mehefin 2016, ble gofynnwyd i bobl benderfynu – ar sail yr hyn a addawyd ar ochrau bysiau ymhlith mannau eraill – os oeddent am aros yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd, neu am adael.

Pleidleisio i aros gwnes i, yn seiliedig ar fy ngwybodaeth i o’r hyn y mae mewn gwirionedd yn ei olygu i Gymru fod yn aelod o’r UE. Er enghraifft, rydym ni yng Nghymru yn cael mwy o arian gan yr UE nag yr ydym yn ei roi i mewn. Rydym ni yng Nghymru hefyd yn allforio mwy i’r UE nag yr ydym yn ei fewnforio. Yr ydym ni ar Ynys Môn ar y ffin, gyda chroesfan ffin uniongyrchol gyda’n cymydog agosaf yn yr UE, felly mae’n gwneud synnwyr cael marchnad sengl ac undeb tollau. Ychwanegwch at hynny’r manteision ehangach i genedl fach fel ni o fod yn rhan o ‘rwydwaith’ rhyng-Ewropeaidd, sy’n helpu ein Prifysgol leol ac yn hybu ymchwil, sy’n darparu cyfleoedd i’n pobl ifanc, sy’n gwneud teithio mor hawdd â phosib.

Pleidleisiodd eraill i adael, ac rwy’n parchu eu dewis yn llawn. Yn seiliedig ar yr hyn a gynigwyd iddynt – sef Brexit rhwydd, gydag arian yn cael ei ddychwelyd i’r Gwasanaeth Iechyd ac ati – penderfynodd eraill, gan gynnwys ffrindiau i mi, gymryd y naid, ac ar hyn o bryd dyna ble rydym ni rwan. Ond ar y pwynt yma dwi’n meddwl fod gan bobol yr hawl i wybod pa risg mae’r naid yna yn mynd i gael arnyn nhw.

Gall naid yn y gwyll fod yn beth da. Dechreuad newydd. Ond peidiwch â drysu hynny gyda naid i’r gwyll, a glanio yn y tywyllwch, pan rwyt ti’n gwybod fod ymyl clogwyn yn y tywyllwch hwnnw.

“Ni allai pethau fod yn waeth nag ydyn nhw rwan,” oedd meddwl ambell un yn ystod y refferendwm hwnnw. Mae gen i lawer iawn o gydymdeimlad â’r math hwn o chwilio am rywbeth ‘gwell’. Dyna pam rydw i mewn gwleidyddiaeth – oherwydd dwi’n gwybod y gallai Cymru a’n cymunedau yma ar Ynys Môn ymdrechu am gymaint mwy nag yr ydym yn ei gyflawni ar hyn o bryd. Ond nid oes gen i unrhyw amheuaeth, pan ddaw hi at ein haelodaeth o’r UE, y gallai pethau fod yn waeth. Yn llawer gwaeth.

Felly, gadewch i bobl benderfynu rwan, yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd gennym rwan, os oes posib cyflawni’r hyn a addawyd i ni. (Profwyd fod yr addewid am arian mawr ychwanegol i’r GIG yn nonsens llwyr o fewn oriau o ganlyniad y refferendwm, er enghraifft).

Nid yw’n ymwneud ag ail-gynnal y refferendwm – gwyddom beth oedd y bobl wedi ei ddweud ym mis Mehefin 2016 – ond yn hytrach am benderfynu ar yr hyn y gellir ei gyflawni mewn gwirionedd. Mae’n ymwneud â phriodweddau ymarferol y cyfan. Ond byddaf hefyd yn parhau i wneud yr achos emosiynol bod bod yn rhan o’r UE yn gweithio i ni.

Yn ein cyfarfod staff cyntaf y flwyddyn y bore yma, addawodd fy nhîm i fod mor gadarnhaol ag y gallwn drwy gydol 2019, felly gadewch i ni fod yn Ewropwyr cadarnhaol yng Nghymru.