Clwb Cwtsh yn y Cynulliad

Heddiw, ymunodd Rhun ap Iorwerth AC â Mudiad Meithrin i lansio ail gyfres o gyrsiau Cymraeg am ddim yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yn gynharach eleni.

Mae’r cynllun, o’r enw Clwb Cwtsh, yn gwrs sy’n defnyddio gemau a chaneuon i gyflwyno’r Gymraeg i rieni plant ifanc. Prosiect ar y cyd rhwng Mudiad Meithrin a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer dysgu Cymraeg, a lansiwyd am y tro cyntaf fel cynllun peilot ym mis Chwefror eleni. Gwelwyd dros 500 o bobl yn cwblhau’r cwrs.

Mae’r cyrsiau Clwb Cwtsh dros wyth wythnos, ac wedi’i eu hanelu at rieni, gofalwyr a darpar rieni. Mae croeso iddynt ddod â’u plant gyda nhw, gan fod Mudiad Meithrin yn darparu adloniant i’r plant.

Mae cyrsiau ar gael mewn 76 o leoliadau ledled Cymru yn ystod mis Hydref gyda chwrs arall yn cael ei gynnig ar gyfer dechrau 2019.

Mae Rebecca o Landaf yn ecolegydd ymgynghorol hunangyflogedig. Mynychodd Clwb Cwtsh am y tro cyntaf gyda’i mam, Jenny, pan oedd ei phlant yn wyth mis a 4 mlwydd oed. Roedd merch hynaf Rebecca wedi bod yn mynd i’r ysgol feithrin yn yr ysgol Gymraeg lleol a roedd Rebecca yn awyddus i allu sgwrsio gyda hi yn y Gymraeg, felly, cymerodd Rebecca y cam i ddal i fyny gyda’i merch. Dywedodd: “Meddyliais wrth fy hun y gallai dechrau o’r dechrau gyda fy mhlant fod yn ffordd dda i mi ddysgu.”

Gwneud ffrindiau newydd, cael hwyl a dysgu rhai geiriau sylfaenol, oedd y prif fanteision i Rebecca a Jenny. Erbyn hyn, mae’r ddwy yn gwneud yn siŵr eu bod yn ymarfer gartref gyda’r plant drwy ganu caneuon a darllen llyfrau Cymraeg.

Ychwanegodd Rebecca: “Byddwn yn argymell sesiynau Clwb Cwtsh i unrhyw un sy’n ystyried dysgu Cymraeg, yn enwedig y rhai â phlant bach. Mae dysgu ail iaith yn gynnar yn dda i ymennydd plant ac mae’n wych ein bod ni’n gallu dysgu ochr yn ochr â nhw hefyd. Mae’r Gymraeg yn iaith hwyliog ac mae o’n cwmpas ni i gyd.”

Dywedodd Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin: “Dw i wrth fy modd ein bod ni yma heddiw i lansio ail gyfres ‘Clwb Cwtsh’. Ers inni ddechrau’n gynharach eleni, rydym wedi cael ymateb gwych ledled Cymru. Mae’r ffaith y gall plant ddod i’r sesiynau gyda’u teuluoedd wedi cael ei chroesawu. Rydym yn edrych ymlaen at weld y prosiect yn tyfu ar lawr gwlad.”

Am fwy o wybodaeth am sesiynau Clwb Cwtsh yn eich ardal chi, ewch i www.meithrin.cymru/clwb-cwtsh/