Colofn Rhun i’r Holyhead and Anglesey Mail 16 08 17

Gwnaeth Ynys Môn ei hun yn falch yr wythnos diwethaf! Adeiladwyd llwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol ar waith caled ac ymroddiad unigolion a chymunedau ar draws yr ynys dros y blynyddoedd diwethaf. Cafodd targedau codi arian eu chwalu, a chyflwynwyd rhaglen o gystadlaethau a digwyddiadau a ysbrydolodd bobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt i ddod i Ynys Môn. Maent yn gadael wedi cael y profiadau cyfoethocaf. Mae’r nifer fawr o negeseuon diolch i’r ynys am Eisteddfod wych yn dweud y cyfan. Doedd y rhywfaint o law yn gynnar yn yr wythnos ddim yn mynd i luchio dŵr oer ar yr Eisteddfod yma!

Dwi eisiau llongyfarch yn arbennig plant a phobl ifanc Ynys Môn a serenodd. O’r cyngerdd agoriadol – un o’r gorau mewn unrhyw Eisteddfod erioed, yn fy marn i! – i enillwyr cystadlaethau, fel unigolion ac aelodau o wahanol gorau, grwpiau a bandiau, bydd cannoedd o bobl ifanc wedi cael profiadau bythgofiadwy. Fe wnai sôn yn arbennig am Gôr Ieuenctid Môn, a’u harweinydd Mari Lloyd-Pritchard, a enillodd un o wobrau’r Eisteddfod – ‘Côr yr Wyl’ yn hwyr ar nos Sadwrn. Mae unrhyw un sy’n gwybod unrhyw beth am y safon o ganu corawl yr ydym yn ei fwynhau yng Nghymru ar hyn o bryd yn gwybod bod hyn yn dipyn o gamp. Llongyfarchiadau mawr!
 
Roedd hi’n wythnos brysur i mi fel eich Aelod Cynulliad hefyd! Mae’r Eisteddfod a gwleidyddiaeth a dadleuon yn mynd law yn llaw, a thu hwnt i gystadlaethau’r prif bafiliwn, mae’r wyl yn gartref i drafodaethau di-ri ar ddyfodol ein gwlad.
 
Fe’m gwahoddwyd i draddodi darlith flynyddol ‘Cymru a’r Byd’ eleni, a dewisais i ganolbwyntio ar yr angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth i ymgysylltu’n well â’r diaspora Cymreig, a’r rhai sy’n deillio o Gymru (neu dim ond gyda diddordeb yng Nghymru) fel y gallwn elwa fel cenedl. Y mwyaf o bobl sy’n lledaenu’r gair am Gymru yn rhyngwladol, neu sy’n dychwelyd yma i wario neu fuddsoddi, yna gorau’n byd.
 
Bûm hefyd yn cadeirio digwyddiad yn galw am hyfforddi Meddygon ym Mhrifysgol Bangor. Mae Llywodraeth Cymru yn dangos diffyg arweinyddiaeth ac uchelgais gwirioneddol ar hyn, ond mae ei angen ar ein GIG a’n cleifion.

Felly, mae’r Eisteddfod wedi mynd a dod, a gadael lot o atgofion hapus. O’r George ym Modedern i’r Iorwerth ym Mryngwran a gwestai di-ri, mae wedi gadael etifeddiaeth economaidd hefyd, gyda llawer o bobl yn siŵr o ddychwelyd i’r ynys ar ôl y croeso cynnes.

Ac wrth gwrs, mae Sioe Ynys Môn wych yr wythnos hon yn profi bod ein hynys yn gallu trefnu digwyddiadau llwyddiannus bob blwyddyn. Gadewch i ni nawr gynllunio ar gyfer Gemau’r Ynysoedd lwyddiannus yn 2025!

Colofn Rhun i’r Holyhead and Anglesey Mail 02 08 17

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol bron yma. Alla i ddim aros! Gall Ynys Môn fod yn falch o’u hymrechion codi arian a pharatoadau ar gyfer y dathliad gwych o iaith a diwylliant Cymru. Maent yn perthyn i bob un ohonom, wedi’r cyfan – os ydym yn siarad Cymraeg neu ddim – yn union fel mae ein hanes yn perthyn i bob un ohonom. Ein hanes a threftadaeth sy’n helpu i’n gwneud ni pwy ydym.

Mae’r wythnos hon yn nodi canmlwyddiant un o frwydrau mwyaf gwaedlyd y Rhyfel Byd Cyntaf, yn Passchendaele. Yno y bu farw Ellis Evans o Drawsfynydd, ac yn Eisteddfod Penbedw 1917, cyhoeddwyd ei fod wedi ennill y Gadair. Roedd y Gadair wedi’i orchuddio gyda lliain du, a byth ers hynny, cyfeirwyd ato fel ‘Cadair Ddu Penbedw’.

Yn ddiweddar, gofynnais am gymorth Llywodraeth Cymru i amddiffyn cofebion i’r rhai a fu farw yn y rhyfel byd cyntaf – nid y math o gofebion mawr cyhoeddus a cenotaphs sydd eisoes yn cael eu diogelu, ond mae rhai bach mewn capeli, ysgolion a hyd yn oed ffatrïoedd. Mae llawer ohonynt eisoes wedi cael eu colli, neu yn cael eu bygwth. Pan fyddwn yn dweud “byddwn yn eu cofio” – mae’n rhaid i ni olygu hynny.

Ar ddydd Gwener ymwelais ag arddangosfa hanes lleol yn Rhoscolyn – arddangosfa wych, yn cynnwys straeon a phethau cofiadwy o orffennol y pentref. Daeth a’r hanes yn fyw!

Mae’r helynt dros gynlluniau Llywodraeth Cymru i adeiladu ‘Cylch Haearn’ enfawr yng Nghastell y Fflint yn dangos pwysigrwydd deall arwyddocâd hanes ein cenedl. Cofiwn ein hanes, rydym yn cofio ein concwest, ond rhoi cofeb i fyny i ddathlu hynny…?! Yn ôl pob golwg, doedd Gweinidogion na’r corff heneb Cadw ddim wedi meddwl bod gofyn i drethdalwyr Cymru i dalu bron i £ 400,000 i ddathlu ymgyrch Edward 1af i reoli a gorthrymu pobl Cymru gyda’i gylch o gestyll yn arwain at rai i holi cwestiynau. Mae dros 10,000 wedi llofnodi deiseb i wrthwynebu. O ganlyniad, mae ‘saib’ wedi bod i’r cynllun. Da iawn.

Y gwir yw nad oes digon o hanes yn cael ei ddysgu yn ein hysgolion o safbwynt y Cymry. Dylai pob un ohonom gael y cyfle i ddeall arwyddocâd digwyddiadau yn ein hanes, gan EIN safbwynt – digwyddiadau a’r grymoedd hynny sy’n ‘gwneud’ Cymru, o – ie – Edward 1af a’i ‘Gylch Haearn’, at ein treftadaeth ddiwydiannol, cyfraniad Cymru at y byd, camau a gymerwyd i danseilio’r iaith Gymraeg, ein ymddangosiad fel democratiaeth ifanc yn ddiweddar … mae cymaint i’w ddysgu.

Os nad ydym yn gwybod o ble yr ydym wedi dod, ni allwn benderfynu ble rydym eisiau mynd fel cenedl chwaith.

Colofn Rhun ap Iorwerth i’r Holyhead and Anglesey Mail 19 07 17

Dwi wastad yn awyddus i wneud pobl yn ymwybodol mai’r Cynulliad Cenedlaethol ydi eu deddfwrfa nhw, mai’r Senedd ydi eu hadeilad nhw, ac mai’r sedd dwi’n eistedd ynddi yn Siambr y Senedd ydi sedd Ynys Môn.

O ganlyniad i hyn, roeddwn i’n falch iawn o gael croesawu pedair ysgol gynradd o’r ynys i’r Senedd yr wythnos ddiwethaf, a dangos sedd Ynys Môn, eu sedd nhw, iddynt.

Gobeithiaf, ar ôl clywed y cwestiynau gwych gan ddisgyblion Ysgol y Borth, Ysgol Corn Hir, Ysgol Parc y Bont ac Ysgol Llanfechell y bydd nifer ohonynt yn anelu i eistedd yn sedd Ynys Môn yn y Senedd yn y dyfodol. Fe ofynnwyd nifer o gwestiynau i mi – am beth sy’n fy ysbrydoli, ein trafodaethau diweddar yn y Senedd yn ogystal â dyfodol Cymru, a mwy.

Fe wnes i drafod pwysigrwydd dysgu ieithoedd ychwanegol gyda disgyblion Parc y Bont a disgyblion Corn Hir, a braf oedd cael clywed fod plant Corn Hir yn cael un wers Ffrangeg yr wythnos yn barod. Fel disgyblion dwyieithog, roedden nhw’n frwdfrydig iawn o weld cyfleoedd i herio eu ffiniau ieithyddol, ac yn dilyn y drafodaeth gyda’r disgyblion, fe wnes i godi’r mater gyda’r Prif Weinidog yn y Siambr y prynhawn hwnnw.

Mae tystiolaeth yn dangos fod yna leihad mawr yn y nifer o ddisgyblion sy’n dysgu iaith dramor yn yr ysgol uwchradd yng Nghymru. Gofynnais i’r Prif Weinidog gytuno â’r galw diweddaraf gan y grŵp traws-bleidiol dwi’n ei gadeirio sef Cymru Rhyngwladol er mwyn gwireddu’r dyhead o gael Cymru dwyieithog ‘+1’.

Mae dysgu ieithoedd dramor, a thrwy hynny meithrin ymwybyddiaeth o ddiwylliannau gwahanol, yn holl-bwysig er mwyn trawsnewid disgyblion Cymru i fod yn ddinasyddion byd-eang.
Roeddwn i hefyd yn hynod falch o weld myfyrwyr yn manteisio ar y cyfle i greu busnes fel rhan o’u Her Menter ar gyfer y Fagloriaeth Gymreig.

Fe ges i fy synnu ar yr ochr orau yn y Ffair Arloesedd yn Ysgol David Hughes yn ddiweddar o weld cymaint o syniadau busnes cyffrous a gwreiddiol – ac mae rhai wedi datblygu i fod yn fusnesau go iawn yn barod megis ‘Arfordir Clothing’. Dymunaf yn dda i’r holl entrepreneuriaid ifanc gyda’u anturiaethau amrywiol.

Colofn Rhun i’r Holyhead and Anglesey Mail 24 05 17

Dydd Llun oedd y cyfle olaf i bobl gofrestru i bleidleisio yn yr etholiad ar Fehefin 8fed. Bydd llawer gormod wedi colli’r dyddiad cau, ac mae’n rhaid i ni barhau i bwyso’r neges: heb bleidlais, nid oes gennych lais. Mae cael pobl i gymryd rhan a chyfrannu i wleidyddiaeth yn rybweth y dylem fod yn ei annog o oedran ifanc.

Yn Ysgol Uwchradd Bodedern yn ddiweddar, cefais gyfle i drafod y syniad o Senedd Ieuenctid i Gymru gyda disgyblion. Mae’r Cynulliad yn ymgynghori am hyn ar hyn o bryd, ac mae’n bwysig fod pobl ifanc yn rhan o’r broses o’r cychwyn cyntaf.

Byddai Senedd Ieuenctid nid yn unig yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc fynegi eu barn ond hefyd yn codi ymwybyddiaeth am y systemau gwleidyddol a seneddol sy’n effeithio ar eu bywydau. Yn bennaf oll byddai’n rhoi dylanwad i bobl ifanc.

Ba am i chithau hefyd gael dweud eich dweud? Rhannwch eich sylwadau drwy’r wefan www.seneddieuenctid.cymru

Mae hi hefyd yn bwysig fod pobl ifanc yn cael blas o fyd gwaith a dyna pam yr oeddwn i’n rhannu siomedigaeth nifer o fyfyrwyr a rhieni ar ôl iddynt gael clywed na fyddai profiad gwaith yn cael ei gynnig i ddisgyblion blynyddoedd 10 a 12 eleni. Mae hyn yn deillio o benderfyniadau Llywodraeth Cymru ynglyn â rôl a chyllid ‘Gyrfaoedd Cymru’, y corff a oedd yn arfer gwirio addasrwydd lleoliadau profiad gwaith. Roedd cynrychiolwyr byd addysg yn rhybuddio ar y pryd y gallai hyn roi profiad gwaith mewn peryg, gan roi ein pobl ifanc o dan anfantais.

Rydw i wedi ysgrifennu at Lywodaeth Cymru i ofyn iddyn nhw wneud popeth allen nhw i sicrhau fod profiad gwaith yn gallu parhau. Gydag ysgolion yn dweud nad oes ganddyn nhw’r capasiti i wirio lleoliadau eu hunain, mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd ymlaen.

Mae profiad gwaith yn hanfodol – nid yn unig yn rhoi blas o’r gweithle i ddisgyblion ac o’r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw yn lleol, ond mae hefyd o gymorth mewn adeiladu eu hunan-hyder a’u sgiliau. Rydw i wedi gweld hynny yn y disgyblion syddd wedi dod am brofiad gwaith yn fy swyddfa i. Byddaf yn parhau i bwyso fel bod myfyrwyr Môn ddim yn colli allan.

Yn olaf, dwi’n aml yn canu clod sector bwyd a diod Môn yma yn fy nghofoln ac yn siambr y Cynulliad. Roeddwn yn falch yr wythnos hon o’i weld yn cael mwy o sylw fyth wrth i chef y Marram Grass, Ellis Barrie ragori ar y gyfres ‘Great British Menu’, gan ddefnyddio cynnyrch lleol gwych fel llymarch ‘Menai Oysters’. Rwy’n siwr ein bod ni i gyd yn dymuno’r gorau iddo yn y rownd derfynol.

Colofn Rhun i’r Holyhead and Anglesey Mail 10.05.17

Yn gynta’i gyd, llongyfarchiadau i’r holl gynghorwyr a gafodd eu hethol i gynrychioli eu cymunedau ar Gyngor Môn yn yr etholiad yr wythnos diwethaf. Rwy’n gwybod y byddwch i gyd yn ymwybodol o’r ymddiriedaeth mae eich cymunedau wedi ei roi ynddoch, ac edrychaf ymlaen i weithio gyda chi dros y blynyddoedd nesaf.

Rydw i hefyd eisiau llongyfarch pawb a roddodd eu henwau ymlaen yn yr etholiad yma. Mae pawb a gyflwynodd syniadau ac a weithiodd yn galed i ennill cefnogaeth wedi cyfrannu’n fawr i’r broses ddemocrataidd.

Cafodd Plaid Cymru ei etholiad leol orau erioed ar yr ynys, ac rydw i’n dymuno’n dda i Llinos Medi Huws wrth iddi arwain ei thîm o 14 o gynghorwyr. Hoffwn gymryd y cyfle hwn hefyd i ddiolch i Ieuan Williams am ei arweinyddiaeth o’r cyngor ers 2013. Yr hyn mae’r 4 blynedd ddiwethaf wedi ei ddangos ydy fod y grŵp sy’n rheoli a’r wrthblaid yn gallu gweithio’n adeiladol er lles yr ynys pan mae’n cyfrif, ac rydw i’n gobeithio y bydd hyn yn parhau yn yr awdurdod newydd.

Rydym i gyd yn falch o allu galw Ynys Môn yn gartref i ni, ac allwn i ddim dymuno cael gwell cymuned i fyw ynddi ac i fagu fy nheulu, ond mae gennym ein heriau, ac yn y blynyddoedd i ddod mae’n rhaid i ni i gyd fel aelodau etholedig fynd i’r afael a’r dasg o ddelio hefo nhw.

Mae gadael yr UE yn bennaf ymysg y rheiny. Mae angen atgoffa llywodraeth Prydain yn wastadol am ein anghenion, a chofio fod sefyllfa Cymru ac Ynys Môn yn whanol mewn nifer o ffyrdd i rannau eraill o Brydain. Mae Lloegr yn mewnforio mwy na mae’n allforio o’r UE, er enghraifft, gyda Cymru yn allforiwr net. Dyna pam mae’r farchnad sengl mor bwysig i ni ac i gwmniau yma ym Môn sydd yn allforio i’r UE ac ymhellach. Porthladd Caergybi yw’r prif gyswllt cludo ffordd rhwng Prydain – ac Erwop gyfandirol – a’r Iwerddon, felly allwn ni ddim fforddio i gael ffin galed a allai gostio’n ddrud i ni mewn masnach a swyddi. Ac mae’n rhaid i Brydain sicrhau fod ein ffermydd teuluol, sydd mor hanfodol i economi a chymdeithas yr ynys, yn cael eu cefnogi.

Dyna pam yr ydym ni angen gymaint o brofiad a phosib yn ein cynrychiolaeth yn San Steffan. Ar ôl 26 mlynedd fel AS ac AC, a 4 blynedd mewn llywodraeth fel Dirprwy Brif Weinidog Cymru, mae gan Ieuan Wyn Jones y profiad hwnnw. Edrychaf ymlaen at weithio gyda fo.

Colofn Rhun i’r Holyhead and Anglesey Mail 01 02 17

Mae hi’n fraint fel AC i allu rhoi materion o bwys i etholwyr ar agenda’r Cynulliad Cenedlaethol. Wythnos diwethaf, dilynais fy nadl ar gynllun peilonau’r Grid Cenedlaethol ym Môn gyda chwestiwn i’r Prif Weinidog, yn gofyn wrtho i dynnu sylw’r Grid at y ffaith fod y Cynulliad wedi gofyn wrthynt i ddewis cysylltiadau trydan dewisiadau amgen yn lle peilonau. Cytunodd i wneud hynny.

Roedd dadl arall a gyd-cyflwynais yn galw ar Llywodraeth y DG i gychwyn ymchwiliad i sut wnaeth cynnyrch waed wedi eu halogi heintio cannoedd o bobl yng Nghymru gyda Hepatitis C neu HIV. Mae hi’n sgandal, ac mae fe wnaeth y ddadl ddod a nifer ohono ni at ein gilydd dros ffiniau pleidiau i dynnu sylw at brofiadau rhai o’r bobl sy wedi dioddef o ran eu hiechyd ac oherwydd stigma dros y flynyddoedd. Mae hi’n amser i’r Llywodraeth roi cyfiawnder iddynt.

Yr wythnos hon, mi fyddai’n siarad mewn dadl yn galw am gryfhau darpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r methiant i fuddsoddi mewn gofal, gan gynnwys colli nifer o welyau ysbytai cymunedol, yn rhoi pwysau gormodol ar ysbytai cyffredinol fel Ysbyty Gwynedd, ac yn golygu bod gormod o bobl ddim yn gallu gael y gofal maent eu hangen yn eu cymunedau. Mae’n rhaid i ni gael y GIG a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda’i gilydd.

Byddaf hefyd yn chwilio am gyfleoedd yn yr wythnosau nesaf i sicrhau dadl ar golli sefydliadau ariannol o’n strydoedd mawr – fy rhai diweddaraf i gyhoeddi eu bod nhw am gau canghennau ydy HSBC yng Nghaergybi a Chymdeithas Adeiladu Yorkshire yn Llangefni. Dwi’n gwybod mai nid elusennau ydy banciau, ond rhywsut mae’n rhaid i’r sector bancio wynebu’r ffaith ein bod ni i gyd fel cwsmeriaid yn helpu iddynt wneud eu helw, a maen rhaid iddynt rhywsut hefyd gyd-weithio i gynnig lefel da o wasanaeth wyneb-yn-wyneb i bobl pan maent ei angen o.

Yn olaf, efallai fod y sefyllfa yn yr Unol Daleithiau dros y penwythnos yn dilyn gwaharddiad yr Arlywydd Trump ar deithio o wledydd Islamaidd wedi digwydd filoedd o filltiroedd i ffwrdd, ond maent yn taro gwerthoedd a ddylai fod yn bwysig i ni i gyd, dim ots os yda ni’n dod o Ynys Môn neu Montana.

Mae goddefgarwch yn egwyddor bwysig iawn i mi, ac mae nifer o etholwyr wedi cysylltu gyda mi i rannu eu hanobaith gyda rhywbeth sydd yn ymddangos i fod yn lleihad cynyddol mewn goddefgarwch yn fyd-eang.

Gadewch i ni wneud addewid i gynnal y gwerthoedd o barch tuag at eraill sydd yn dod a’r gorau allan o gymdeithas, dim y gwaethaf.

Colofn Rhun ap Iorwerth i’r Holyhead and Anglesey Mail 21.12.16

Ers cael fy ethol yn Aelod Cynulliad Ynys Môn, dwi wedi ffeindio fod y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig yn gyfnod prysur iawn i gynrychiolydd etholedig. Mae hefyd yn amser gwerth chweil, lle mae ymweliadau â chartrefi a gwahanol ddarparwyr gofal gwasanaethau cyhoeddus yn fy atgoffa o ymroddiad llwyr y rhai sydd wedi ymrwymo eu bywydau i helpu eraill.

Dydy eleni ddim wedi bod yn ddim gwahanol, ac mae wedi bod yn bleser siarad â chymaint o bobl drwy lu o ymrwymiadau llawn tinsel ar draws yr ynys.

Mae hefyd yn amser i gofio’r rhai y mae Nadolig yn amser anodd iddynt. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein ‘calendr adfent tu chwith’, gan ddod â phecynnau o fwyd i mewn i swyddfa Plaid Cymru yn Llangefni. Byddent yn cael eu rhannu gan wirfoddolwyr banc bwyd i’r rhai sydd angen ychydig o help ychwanegol y Nadolig hwn.

Yn y Cynulliad yr wythnos diwethaf siaradais mewn dadl yn galw am roi terfyn ar droi teuluoedd gyda phlant allan o dai cymdeithasol. Allwch chi ddychmygu bod yn blentyn yn cael eich troi allan o’ch cartref ychydig cyn y Nadolig?

Fe wnes i hefyd wneud datganiad byr yn codi ymwybyddiaeth o sgamiau. Mae mwy a mwy o bobl yn dioddef o sgamiau troseddol, a’r henoed a’r bregus yn aml sydd fwyaf mewn perygl. Mae’n gwneud i fy ngwaed ferwi. Dydw i ddim am i Ddolig unrhyw un gael ei difetha yn y modd hwn.

Roedd digwyddiadau eraill cyn y Nadolig yn cynnwys cyfarfod gydag uwch reolwyr NatWest. Yr wyf yn teimlo dros y staff a gafodd wybod cyn y Nadolig fod eu canghennau yn cael eu cau, yn Amlwch, Porthaethwy a Chaergybi. Dywedwyd wrthyf na ddylai na fod diswyddiadau gorfodol, ond mae cwsmeriaid yn bendant yn wynebu anghyfleustra gorfodol. Rhaid gwneud rhywbeth – ar y raddfa hon byddwn yn colli ein banciau yn gyfan gwbl!

Dydy’r un Nadolig yn gyflawn heb ymweliad â swyddfa ddidoli Post Brenhinol, ac eleni mae’r staff yn Llangefni yn brysur fel bob amser yn sicrhau bod eich cardiau ac anrhegion yn cael eu dosbarthu ar amser.

Ynghyd â’r cardiau Nadolig, rwyf hefyd wedi anfon fy ymateb i ymgynghoriad y Grid Cenedlaethol ar y cynlluniau i godi rhes newydd o beilonau ar draws yr ynys. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ychwanegu eu lleisiau at y corws o wrthwynebiadau drwy ymateb i ymgynghoriad Grid erbyn y dyddiad cau yr wythnos diwethaf.

Yn olaf, gadewch i mi ddymuno Nadolig Llawen a blwyddyn newydd heddychlon a llewyrchus i chi a’ch anwyliaid.

Colofn Rhun ap Iorwerth i’r Holyhead and Anglesey Mail 07.12.16

Mae cymaint o bobl ar Ynys Môn yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu gadael i lawr gan gyhoeddiad NatWest yr wythnos diwethaf. Mae banciau yn cael eu rhwygo allan o’n strydoedd mawr ar raddfa frawychus. A nid dim ond ar Ynys Môn, mae hon yn broblem ledled y DG, ond does dim amheuaeth mai gwasanaethau gwledig ac mewn trefi bach mewn llefydd fel Ynys Môn sy’n cael eu taro galetaf. Rhywsut mae’n rhaid i ni newid y cydbwysedd yn ôl o blaid y cwsmeriaid. Os yw hynny’n golygu camau gweithredu gan y llywodraeth mewn rhyw ffordd, yna dyna ni.

Mae’n rhaid i ni ddatblygu ffordd o sicrhau bod banciau yn cofio pwy yw eu cwsmeriaid, sydd wedi eu helpu nhw i wneud eu helw. Rydw i am fod yn cyfarfod â phenaethiaid NatWest yr wythnos hon ac er nad yw record banciau yn gwrth-droi penderfyniadau i gau yn wych – gadewch i ni fod yn onest am hynny – mae’n rhaid i ni barhau i gyflwyno’r achos o blaid gwarchod gwasanaethau gwledig.

Diolch i bawb a ddaeth i’r cyfarfod cyhoeddus yn gwrthwynebu peilonau newydd ar draws yr ynys yn Llangefni ddydd Gwener diwethaf. Gydag ymgynghoriad Grid Cenedlaethol yn dod i ben ar Ragfyr 16eg, mae’n amser i bobl leisio eu barn. Ewch i http://www.northwalesconnection.com i roi gwybod i’r Grid pam eich bod yn gwrthwynebu.

Cyfarfûm bennaeth y rheoleiddiwr ynni Ofgem yr wythnos diwethaf i ddadlau’r achos dros fuddsoddi mewn dewisiadau eraill i beilonau, nid lleiaf oherwydd yr effaith ar ein hamgylchedd gweledol ac ar ein diwydiant twristiaeth, sydd yn hynod o bwysig.

Yr wythnos hon, rwy’n cwrdd â’r Ysgrifennydd Amgylchedd i drafod y syniad o gael Parc Bwyd yn Ynys Môn. Mae buddsoddiad ardderchog wedi ei wneud mewn mentrau fel y Ganolfan Technoleg Bwyd yng Ngholeg Menai yn Llangefni. Dwi’n credu od angen i ni wneud buddsoddiad pellach rwan i helpu cwmnïau i symud i’r cam nesaf – a chynyddu cynhyrchiad, cynyddu cyflogaeth, a datblygu diwydiant bwyd Ynys Môn. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gadarnhaol yn ei ymateb i’r achos dwi wedi ei wneud yn y gorffennol. Gobeithio nawr y gallwn symud yn agosach at y pwynt o wneud buddsoddiad.

Mae busnes arall y Cynulliad sydd wedi bod yn fy nghadw i’n brysur yn cynnwys dadl yr wyf wedi’i drefnu ar y cyd ar fynd i’r afael â gordewdra, sydd yn eithaf amserol gyda gormodedd y Nadolig bron ar ein gwarthaf.

Gadewch i ni gofio pa mor bwysig ydy hi i ofalu am y rhai llai ffodus na ni ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Cefais groeso cynnes yn Tesco Caergybi yr wythnos diwethaf pan alwais heibio i gefnogi eu casgliad banc bwyd blynyddol. Gadewch i mi eich atgoffa hefyd am y Calendr Adfent Tu Chwith – dewch â’ch cyfraniadau i fy swyddfa erbyn 20 Rhagfyr os hoffech gymryd rhan.

Colofn Rhun i’r Holyhead and Anglesey Mail 23.11.16

Mae llawer o gyfleoedd i Aelod Cynulliad godi materion ar ran eu hetholwyr. Un o’r rheini yw yn ystod cwestiynau i Weinidogion Llywodraeth Cymru yn Siambr y Cynulliad.

Yn aml iawn, rydych chi’n gwybod cyn gofyn cwestiwn nad ydych am ddatrys mater, ond mae’n bwysig serch hynny i godi’r mater hwnnw, er mwyn ei roi ar radar y Llywodraeth. Weithiau, fodd bynnag, mae pethau’n symud ymlaen yn uniongyrchol o ganlyniad i’r cwestiynau a ofynnwyd.

Rwyf wedi codi mater band eang ar Ynys Môn nifer o weithiau, y tro diwethaf yn dilyn datganiad gan y Llywodraeth yn gynharach y mis ar olynydd y rhaglen Superfast Cymru. Tynnais sylw at y ffaith, er gwaethaf fod y Llywodraeth yn gallu cyfeirio at ystadegau da ar berfformiad cyffredinol y rhaglen cyflym iawn, yng Nghymru wledig, mae’r profiad yn aml yn wahanol i’r ystadegau.

Y gwir yw bod y llefydd hawsaf i gyrraedd atynt wedi cael eu cysylltu yn gyntaf, ac mae digon ohonynt, felly mae’r canran o’r eiddo wedi’i cysylltu yn ymddangos yn uchel iawn. Yn ardaloedd gwledig Ynys Môn, dywedais, roedd cymunedau cyfan yn dal i aros, ac mae’r profiad yma wedi bod o system sydd ddim yn gyflym, heb son am fod yn gyflym iawn.

Fel y dywedais, yr wyf wedi codi’r mater sawl gwaith, ond y tro hwn, dywedodd y Gweinidog “Iawn, gadewch i mi ddod i weld drosof fy hun.” Haleliwia! O ganlyniad, bydd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn dod i Ynys Môn yn y flwyddyn newydd, a byddaf yn ceisio creu darlun iddi o rai o’r materion cyswllt sydd yn ein hwynebu. Fe wnaf roi gwybod i chi am y canlyniadau, ond mae hyn yn enghraifft o achos lle os ydych yn dal ati i wthio, gallwch gael y Llywodraeth i wrando. Y cam nesaf yw i droi gwrando yn weithredu

Materion eraill rwyf wedi eu codi yn y Cynulliad dros yr wythnosau diwethaf ydy’r angen i helpu a chefnogi cyn-filwyr y lluoedd arfog, sut y gallwn sicrhau ein bod yn gallu cadw a denu gweithwyr allweddol i’r GIG o’r tu allan i’r DU ar ôl i ni adael yr UE, a pharodrwydd ein NHS ar gyfer misoedd y gaeaf. Rwyf hefyd wedi defnyddio datganiad 90 eiliad i dynnu sylw at y gwasanaeth Beiciau Gwaed newydd, lle mae gwirfoddolwyr yn cludo cynnyrch achub bywyd rhwng ysbytai i helpu i ddarparu triniaethau hanfodol, ac arbed ffortiwn i’r NHS.

Yn yr etholaeth mae wedi bod yn brysur hefyd, a hoffwn ddiolch yn arbennig i bawb a ddaeth i’r cyfarfod cyhoeddus fywiog iawn a gynhaliwyd yn Amlwch.

Colofn Rhun ap Iorwerth i’r Holyhead and Anglesey Mail 09 11 16

Mae’r ymgyrch i berswadio’r Grid Cenedlaethol i ailystyried ei gynlluniau am beilonau newydd ar draws Ynys Môn yn poethi. Mae’n rhaid iddo! Mae’n rhaid i ni siarad ag un llais.

Diolch i bawb a drodd i fyny i brotestio yn Nhalwrn yn ddiweddar wrth i’r Grid lansio eu sioe ‘ymgynghori’ deithiol. Ar ôl cyflwyno ein hachos o flaen camerâu teledu, fe wnaethom orymdeithio i neuadd y pentref i roi ein cwestiynau i reolwyr y Grid yn uniongyrchol.

Diwedd y gân yw’r geiniog. £400m fyddai’r gost ychwanegol o roi ceblau o dan y ddaear. Mae’n lot o brês, ond cofiwch fod hynny’n cael ei rannu rhwng boblogaeth y DG dros gyfnod o 60+ o flynyddoedd! Y mis diwethaf, cytunodd y Grid i wario bron i £2 BILIWN ar geblau tanddaearol yn Ardal y Llynnoedd.

Mae gennym ni, hefyd, ynys o harddwch eithriadol, a gyda thwristiaeth yn rhan bwysig o’n heconomi, mae gennym achos cadarn.

Fe wnaf ddadlau’r achos mewn cyfarfod gyda phennaeth y rheoleiddiwr ynni, Ofgem, yn hwyrach y mis hwn. Nhw a Llywodraeth y DG a all benderfynu fod Ynys Môn yn werth y buddsoddiad ychwanegol.

Ychwanegwch at hynny y ddadl am roi ceblau ar bont newydd ar draws y Fenai yn hytrach na gwario £100 miliwn (ac mae’n debyg yn llawer mwy) ar dwnel yn, fel bod gwaddol yn cael ei adael i’r ynys. Rwyf wedi dadlau hyn ers peth amser, ond mae yna amharodrwydd i fwrw ymlaen â hyn, oherwydd efallai na fyddai’r amserlenni pryd fydd angen y cysylltiad trydan a phryd y gallai pont gael ei adeiladu efallai ddim yn cydfynd.

Wel, GWNEWCH iddo ddigwydd! Byddai unrhyw beth arall yn wastraff gwarthus o arian cyhoeddus, gydag adeiladu twnel yn awr, A phont sydd ei angen yn y blynyddoedd i ddod.

Heblaw am hynny, mae wedi bod yn bythefnos brysur iawn yn yr etholaeth ac yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae manteision trafodaethau cyllideb Plaid Cymru â’r Llywodraeth Lafur yn dod yn glir iawn erbyn hyn, gyda’r buddsoddiad a sicrhawyd gan Blaid Cymru ar gyfer iechyd a swyddi a pharcio yng nghanol tref.

Rydw i’n cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus, gydag un yn Amlwch yr wythnos hon yn dilyn yr un yng Nghaergybi yn ddiweddar. Biwmares fydd nesaf, yn y flwyddyn newydd. Maent yn gyfle gwych i sgwrsio am y materion sy’n bwysig i gymunedau yr ynys.

Yn olaf, diolch i Mary Parry a’r artistiaid am eu sioe canu a dawnsio ‘That’s Entertainment’ yng Nghanolfan Ucheldre yr wythnos diwethaf. Fe wnaeth y sioe yna, yn ogystal ag Eisteddfod Ffermwyr Ifanc y diwrnod cynt, roi gwên fawr ar fy ngwyneb!