CANOLFAN FRECHU YN ‘NEWYDDION DA’ I GAERGYBI

Rhun ap Iorwerth AS yn croesawu datblygiad brechu Caergybi.

Ar ôl galw dros yr wythnosau diwethaf i sefydlu mannau brechu torfol yng Nghaergybi, mae’r AS dros Ynys Môn wedi croesawu’r newyddion y bydd canolfan frechu leol yn agor yn Ysbyty Penrhos Stanley yn y dyddiau nesaf i frechu 2,000 o bobl yn y pedwar grŵp blaenoriaeth uchaf erbyn canol mis Chwefror.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS: “Heb unrhyw ganolfan frechu dorfol wedi’i chlustnodi ar gyfer tref fwyaf Ynys Môn, gofynnais i’r bwrdd iechyd ystyried yr heriau sy’n wynebu gofal sylfaenol yn y dref dros y misoedd diwethaf. Roeddwn yn falch bod y Bwrdd wedi ymateb yn gadarnhaol i’r achos a gyflwynais. Rwy’n falch bod hwn yn cael ei sefydlu fel ymdrech gychwynnol i ddod â brechu torfol i gymuned Caergybi, edrychaf ymlaen at weld hwn yn cael ei ddatblygu’n gyfleuster brechu rheolaidd. Mae hyn yn newyddion da i’r boblogaeth leol. ”