Cadwch Ynys Môn fel uned etholiadol ar wahân, medd AC

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn galw ar i Ynys Môn gael ei thrin fel ‘achos arbennig’ a cael ei chadw fel uned etholiadol ar wahân.

Yn dilyn cyhoeddiad gan y Comisiwn Ffiniau y gallai Cymru golli 11 o Aelodau Seneddol, mae Rhun yn galw am i Ynys Môn gael ei thrin fel etholaeth gadwedig, fel Ynysoedd Erch a Shetland.

Mae Rheolau’r Ddeddf System Bleidleisio ac Etholaethau Seneddol 2011 yn nodi y dylai holl etholaethau gael nifer o etholwyr o fewn ±5% o gyfartaledd y DG neu gwota. Fodd bynnag, nid yw Ynys Wyth yn Lloegr ac Orkney a Shetland a Na h-Eileanan an Iar yn yr Alban yn cael eu cynnwys yn hyn, a caniateir iddynt gael etholaeth sydd yn fwy na 5% gwota etholiadol y DG.

Meddai Rhun ap Iorwerth:

“Mae Ynys Môn wedi bodoli fel uned ers y drydedd ganrif ar ddeg, ac mae’n cael ei thrysori. Fel ynys, mae ei ffiniau wedi’u diffinio’n glir iawn. Byddai ei thynnu oddi ar y map etholiadol fel etholaeth ynys yn ergyd i ddemocratiaeth Ynys Môn ac i bobl Ynys Môn. Mae gwerth go iawn i gadw cysylltiad clir rhwng pobl yr ynys a’r rhai sy’n eu cynrychioli.

“Credaf byddai’n annheg hefyd i ran o’r tir mawr gael eu trin fel ‘ychwanegiad’ i Ynys Môn – lle y byddai’r rhan fwyaf o boblogaeth unrhyw etholaeth newydd yn byw – dim ond i wneud yn iawn am y niferoedd.

“Rwy’n galw ar Lywodraeth y DG i drin Ynys Môn fel achos arbennig, yn yr un ffordd ag y maent wedi gwneud gydag Ynys Wyth ac Ynysoedd yr Alban. Fe wnes i hefyd ofyn cwestiwn i’r Prif Weinidog yn y Senedd, yn gofyn pa drafodaethau y mae wedi’i gael gyda Llywodraeth y DG ar y mater hwn.”