CADWCH MASGIAU MEWN SIOPAU, MEDDAI RHUN AP IORWERTH

“A yw’n rhesymol mynnu bod gweithiwr siop yn gwisgo masg i weld meddyg, ond bod dim rhaid i’r un meddyg wisgo masg yn y siop?” – Rhun ap Iorwerth AS

***

Mae Rhun ap Iorwerth wedi galw am gadw gwisgo masgiau’n orfodol mewn siopau manwerthu, a dywedodd heddiw:

“Dychmygwch sefyllfa lle byddai’n rhaid i weithiwr siop wisgo gorchudd wyneb er mwyn cael mynediad i’w meddygfa leol, ond ni fyddai’r meddyg yn gorfod gwisgo masg i fynd i’r siop?”

Mewn cwestiynau i’r Prif Weinidog, galwodd Mr ap Iorwerth hefyd ar Lywodraeth Cymru i amddiffyn plant a phobl ifanc “yn ddi-gyfaddawd” rhag y feirws, gan gynnwys cymryd camau i wella awyriad mewn ysgolion a chyflwyno brechlynnau.

Cododd Mr ap Iorwerth bryder penodol am effaith Covid Hir ar bobl ifanc, a gofynnodd am ddatblygu gwasanaethau Covid Hir i Blant.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd a Gofal,

“Ni ddylai llywodraethau fod yn dewis a dethol pa leoliadau cyswllt agos lle mae’n orfodol i ddefnyddio masgiau – yn sicr nid yw coronafeirws yn gwneud cymaint o wahaniaeth!

“Rwy’n croesawu’r cadarnhad y bydd yn dal yn ofynnol i bobl wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau gofal iechyd, ond mae bod mewn siop brysur hefyd yn risg, gan gynnwys i staff.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru rannu eu rhesymu y tu ôl i’r penderfyniad hwn, neu fel arall bydd gennym y sefyllfa lle bydd yn rhaid i weithiwr siop wisgo gorchudd wyneb i fynd at eu meddyg, ond ni fydd yn rhaid i’w meddyg wisgo masg i ymweld â’u siop.”