Cadwch eich cŵl y Nadolig hwn, a pharchu gweithwyr siop

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn cefnogi ymgyrch i geisio atal trais a cham-drin yn erbyn gweithwyr.

Mae ymgyrch yr Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol (Usdaw) ‘Rhyddid Rhag Ofn’ yn gweithio i ledaenu’r neges nad yw camdriniaeth yn rhan o’r swydd.

Meddai Rhun ap Iorwerth, a ymunodd gyda chynrychiolwyr Usdaw yn y Cynulliad i roi cyhoeddusrwydd i’r ymgyrch:

“Yn enwedig gyda chyfnod siopa prysur iawn o’n blaenau ni, mae’n bwysig bod gweithwyr yn teimlo’n ddiogel yn y gwaith a bod y cyhoedd sy’n siopa yn ymwybodol bod trais, bygythiadau a cham-drin yn erbyn gweithiwr yn ymddygiad annerbyniol.”