Byddai mwy o brofi yn helpu i fynd i’r afael â’r diffyg CGP yn sector gofal cymdeithasol Cymru

Mae penaethiaid Gwasanaethau Cymdeithasol cynghorau Cymru wedi dweud wrth bennaeth GIG Cymru fod diffyg cyfarpar gwarchod personol yn y sector gofal yn cael ei waethygu trwy ddiffyg profion.

Mewn llythyr a welwyd gan Weinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AC, maent yn disgrifio pryderon y sector ‘oherwydd diffyg CGP, y daw gweithwyr gofal sy’n cael eu gorweithio yn heintwyr ar raddfa eang, fydd yn rhoi baich trymach fyth ar ein hysbytai.’ Maent yn galw hefyd am dryloywder ar y cyflenwad o CGP gan nodi ‘nad oes modd cynnal y sefyllfa bresennol lle nad oes gennym syniad pryd a faint o stoc fydd yn cyrraedd.’

Anfonwyd y llythyr cyn cyhoeddi canllawiau newydd ar CGP sy’n golygu y bydd angen MWY o gyfarpar gwarchod yn awr.

Ond mae CCGC Cymru hefyd yn canolbwyntio ar brofion annigonol, gan ddweud bod ‘yn rhaid rhoi blaenoriaeth i leoliadau gofal. Bydd hyn yn ei dro yn lleihau’r defnydd o CGP ar gyfer achosion nad ydynt wedi eu cadarnhau. Mae llawer iawn o CGP ar hyn o bryd yn cael ei ddefnyddio’n ddiangen oherwydd diffyg profi.’

Dywed Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AC ei fod yn ‘pryderu’n enbyd’ am yr hyn sy’n digwydd yn y sector gofal.

Gan gyfeirio at achos o nifer uchel o farwolaethau yn yr un cartref gofal yn Glasgow, dywedodd Mr ap Iorwerth fod yn rhaid atal yr un peth rhag digwydd yng Nghymru.

Croesawodd yr hyn wnaeth y Llywodraeth i ddarganfod ffynonellau newydd o CGP, gan weithio gyda diwydiant yma yng Nghymru, ond galwodd am eglurder ar frys ynghylch faint o gyfarpar fydd ei angen dros yr wythnosau nesaf, a pha gynlluniau sydd ar y gweill i’w gyflenwi.

Meddai Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AC,

“Mae’r problemau am gyflenwi a chyrchu CGP yn y sector gofal yng Nghymru yn rhywbeth rwy’n pryderu’n enbyd yn ei gylch. Mae’r Llywodraeth yn dweud wrthym fod pethau yn digwydd, ond dywed y sector nad oes digon o gyfarpar, ac nad ydynt yn gwybod o lle y daw.

“Dywedodd rheolwr un cartref gofal wrthyf ‘Yn hwyr neu’n hwyrach, fe fyddwn yn dod ar draws preswylydd gyda Covid-19. Sut bydd modd i mi ofyn i’r staff ofalu am yr unigolyn hwnnw os nad oes ganddynt ddim i’w gwarchod?’

“Mae arna’i ofn am fy mywyd gweld sefyllfa fel yr un yn yr Alban lle, gwaetha’r modd, y bu farw tri ar ddeg o drigolion mewn cartref gofal oherwydd Covid-19. Mae staff yma’n teimlo’n ofnus, ac fe ddylent deimlo mor ddiogel ag sydd modd yn y gwaith.

Pwysleisiodd Rhun ap Iorwerth AC hefyd bwysigrwydd mwy o brofi:

“Rydym ar ei hôl hi lle dylasem fod wedi profi yng Nghymru, a rhaid rhoi blaenoriaeth i gynyddu nifer y profion. Ond rhaid i ni wneud yn siŵr fod gwerth cynnal profion yn y sector gofal yn cael ei gydnabod hefyd.”