Bydd Rhun ap Iorwerth yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynglŷn â chynlluniau Betsi Cadwaladr i ganoli gwasanaethau fasgwlar.

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, wedi mynegi ei siom bod Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio â chytuno ar gais Plaid Cymru am asesiad effaith i gynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ganoli gwasanaethau fasgwlar Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd.

Mae aelodau etholedig y blaid, Rhun ap Iorwerth AC, Siân Gwenllïan AC, Hywel Williams AS a Liz Saville Roberts AS wedi bod ar flaen y gad mewn ymgyrch yn gwrthwynebu israddio gwasanaethau fasgwlar Ysbyty Gwynedd.

Yr wythnos hon, mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i gynnal asesiad effaith brys a chynhwysfawr o effeithiau symud y gwasanaeth fasgwlar i’r dwyrain, ar y cleifion sy’n byw yn rhannau mwyaf gwledig y siroedd, gyda Mr ap Iorwerth yn rhoi’r cais hwnnw’n uniongyrchol i’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn Siambr y Cynulliad heddiw.

Roedd yr AC Llafur yn dewis peidio â chytuno â chais Plaid Cymru, ac mae Mr ap Iorwerth wedi mynegi ei siom sylweddol wrth amlinellu’r angen am asesiad effaith llawn a thrylwyr eto.

“Mae’n siomedig iawn bod Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio â chytuno ar gais Plaid Cymru am asesiad llawn i’r effaith y bydd cynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ganoli gwasanaethau fasgwlar ar gleifion yng ngogledd orllewin Cymru.

“Byddaf yn ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd i fynd a’r mater yn bellach a gwneud achos dros ail-edrych ar y cynlluniau yma, oherwydd y pryderon difrifol a godwyd yng ngoleuni cynigion y bwrdd iechyd. Mae’r cleifion yn haeddu Asesiad effaith llawn a thrylwyr ar y mater yma.

“Fis yn ôl aeth BIPBC yn ôl ar eu gair a thorri ei haddewid i ddiogelu rhai gwasanaethau yn Ysbyty Gwynedd. Rhoddwyd sicrwydd y byddai rhai gwasanaethau llawfeddygaeth fasgwlar yn cael eu cynnig ym Mangor ac – yn bwysicaf oll – y byddent yn gallu derbyn derbyniadau fasgwlaidd brys yn Ysbyty Gwynedd o hyn ymlaen – ond ymddengys nad yw hynny’n digwydd rŵan.

“Y pryder amlwg yw y bydd hyn yn cael effaith andwyol ar gleifion yn y gogledd-orllewin, y bydd rhai ohonynt o dan y cynlluniau sydd o’n blaenau ni’n wynebu taith 90 munud i dderbyn mynediad brys i feddygfa fasgwlar yn Glan Clwyd, sydd eisoes yn cael ei gynnig mewn safon eithriadol o dda yn Ysbyty Gwynedd.