Beiciau Gwaed Cymru: “Gwasanaeth Gwerthfawr”

Yn ymateb i Lansio Beiciau Gwaed Gogledd Orllewin Cymru, dywedodd Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad Ynys Mon ac Ysgrifennydd Cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae hwn yn wasanaeth gwerthfawr yng ngweddill Cymru yn barod – a rwan mae’r jig-so yn llawn. Rydw i’n ddiolchgar i wirfoddolwyr Beiciau Gwaed am sicrhau bod deunydd achub bywydau yn gallu cael eu trosglwyddo’n gyflym yma yn y gogledd orllewin rwan hefyd. Mae’n wasanaeth gwerthfawr iawn i’r NHS, ac yn cael ei ddarparu am ddim.”