BLOG: Realiti Brexit

Fe wyddwn nad oedd pethau’n mynd yn dda i’n hymgyrch i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, pan ymwelais ag ysgol yn f’etholaeth yn ystod dyddiau olaf yr ymgyrch. Nid oedd a wnelo’r ymweliad â’r refferendwm, ond daeth y pennaeth ata’i a dweud:

“Mae mor anodd, tydi?!”

Gofynnais iddi beth oedd hi’n feddwl.

“Wel, y peth Ewrop yma ….. , mae mor anodd penderfynu a ddylan ni fod i fewn neu allan.”

Fedra’i ddim dweud wrthych pa ffordd y pleidleisiodd hi, ond i weithwraig broffesiynol ifanc fel hi, mewn ardal sydd yn amlwg wedi elwa o arian Ewropeaidd, lle nad yw mewnfudo o’r tu allan i’r DG yn broblem o gwbl, ei chael yn anodd penderfynu ar rywbeth oedd i mi yn bersonol – o’r un genhedlaeth a chefndir tebyg iddi hi yn hawdd dros ben penderfynu arno – yn profi i mi nad oeddem mewn sefyllfa dda.

Roedd hi’n un o’r ymgyrchoedd caletaf. Yma yng Nghymru, roeddem newydd ymladd etholiad Cynulliad– felly roedd ysbrydoli’r ymgyrchwyr ar ôl un ymgyrch galed yn anodd – nid yn unig i Blaid Cymru, ond ar draws y pleidiau gwleidyddol. Rydw i’n meddwl bod yr ymgyrch Aros wedi methu â lleisio’r pethau cadarnhaol am aelodaeth yr UE mewn modd oedd yn dwyn i mewn bobl fel y pennaeth yn Sir Fôn. Ac wrth gwrs, ymgyrch oedd hon wedi ei gosod yn erbyn cefndir o negyddiaeth am ein haelodaeth o’r UE a lwyddasai i gyffwrdd â llawer nerf dros gyfnod maith o amser. Effaith dropyn wrth ddropyn o ensyniadau negyddol am ein haelodaeth – wedi ei sbarduno gan ffenomen fyd-eang newydd o wleidyddiaeth boblogyddol, a hwyluswyd ac a wrteithiwyd gan ddegawd o lymder, o ansicrwydd ariannol ac economaidd.

“Fedr pethau fod ddim gwaeth na maen nhw rwan,” oedd casgliad llawer. Ac yr ydw i’n deall beth oedd y tu ôl i deimladau o’r fath. Roedd llywodraethau yn cael eu gweld yn aneffeithiol. Y tlotaf oedd wedi cael eu taro waethaf. Y demtasiwn o’u blaenau oedd i godi dau fys ar y cwbwl lot! Arnom ni!

Dewch wedyn at gelwyddau’r ymgyrch Adael – a ymgorfforwyd orau yn y bws coch drwgenwog. £350m yr wythnos i’r GIG. Dim amwysedd – dim ond dweud yn syml ‘pam gwario’r arian yma ar aelodaeth o glwb sy’n rhoi DIM yn gyfnewid i ni – DIM! – pan fedrwn fod yn ei wario ar wasanaeth iechyd sydd mor brin o bres.’

Swnio’n ddeniadol, tydi?

Nes, wrth gwrs, i’r sgriffiadau lleiaf un ddechrau ymddangos ar ochr y bws. O fewn oriau i’r bleidlais, yr oedd Nigel Farage yn dweud nad oedd erioed wedi tanysgrifio i’r ddadl ‘£350m yr wythnos i’r GIG’. Doedd hynny ddim yn wir.
Rhy hwyr.

Ac wrth gwrs yng Nghymru, yr oedd y syniad nad oedd ein tâl aelodaeth i glwb yr UE wedi dod â ‘dim’ yn gyfnewid mor wirion â’r syniad y byddai’r GIG ei hun yn cael ei achub trwy i ni beidio â thalu ein tâl aelodaeth i’r UE.

Nid testun balchder yw i ni yng Nghymru fedru dweud ein bod wedi llwyddo i hawlio rhai o becynnau cymorth mwyaf hael yr UE dros y blynyddoedd diwethaf. Am mai gorllewin Cymru a’r Cymoedd yw un o ranbarthau tlotaf yr UE gyfan y mae hyn. Ond nid dim ond arian Amcan Un – y gronfa sydd wedi denu’r mwyaf o benawdau o ran cyllid yr UE sydd yn rhan o hyn – mae yna hefyd gymysgedd o gronfeydd a phecynnau cymorth sydd wedi golygu ein bod ar ein hennill yn net pan ddaw’n fater o farnu a fu ein haelodaeth o ‘werth’ ai peidio.

Tydw i ddim wedi crybwyll ffermio eto. Mae’r syniad y byddai’r sawl sydd yn derbyn cymorthdal amaethyddol yr UE yn pleidleisio i roi terfyn arno heb YR UN awgrym – dim awgrym o gwbl – am yr hyn allai ddod yn ei le, wedi achosi penbleth mawr i mi. Fedra’i ddim deall.

A tydw i chwaith heb hyd yn oed sôn am fusnesau a diwydiannau Cymru. Tra bod y DG yn fewnforiwr net, mae Cymru yn allforiwr net i’r UE, ac afraid dweud fod y rhyddid i nwyddau symud rhwng Cymru a chenhedloedd eraill Ewrop yn hanfodol i iechyd economaidd y busnesau hynny, a’r degau o filoedd o swyddi sy’n dibynnu arnynt.

Ond pleidleisiodd Cymru i Adael. Pam?

Doedd y rhuthr ddim yn help. Gyda chyfryngau’r DG ar flaen naratif yr ymgyrch – a llawer ohonynt wedi hen benderfynu y dylasem adael, llawer o hynny oherwydd hunan-les perchenogion y gweisg – roedd hi bron yn amhosib rhoi dimensiwn Cymreig i’r ddadl. Fe wnaethom ein gorau, ond doedd ein gorau ddim yn ddigon da.

Roedd y rhuthr i gynnal y bleidlais hefyd yn golygu na fu sail i drafodaeth fanwl go-iawn. Cymharwch hynny â’r refferendwm ar annibyniaeth yr Alban. Mae gen i gof eistedd mewn caffi yn Glasgow yn ystod y refferendwm hwnnw, ac ar y bwrdd yr oedd copi o ‘Scotland’s Future’ – y Papur Gwyn ar Annibyniaeth yr Alban. Roedd hi’n ddogfen swmpus. Fe’i cyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2013, bron i flwyddyn gyfan cyn y refferendwm. Yr hyn rydw i’n gofio am y ddogfen honno yn y caffi yn Glasgow oedd ei bod bron yn ddarnau mân. Roedd wedi ei bodio, ei darllen, roedd staeniau coffi drosti, cawsai ei hastudio, ei thrafod, ei dadansoddi….a’i gadael i’r cwsmer nesaf.

Yn y pen draw, penderfynodd yr Alban beidio â chymryd y dewis yn Refferendwm 2014, ond bu’r ddadl a’r trafodaethau yn ysbrydoliaeth. A doedd dim diffyg tystiolaeth am yr hyn y gallai annibyniaeth olygu – o blaid ac yn erbyn.
Doedd dim dechreuadau felly i Refferendwm yr UE. Wedi ei alw’n sydyn am resymau mewnol y Blaid Geidwadol, doedd unman lle gallai’r pennaeth o Sir Fôn na neb arall droi ato i weld beth oedd yn y fantol. Dim dogfen y gallai eraill ddefnyddio fel sail i’w dogfennau cefnogol hwy neu ddadlau yn ei herbyn.

Rhethreg oedd y cyfan. Yr ymgyrch Adael yn rhybuddio pobl – ‘da chi, peidiwch â gwneud hyn, mae gormod yn y fantol’ (ond fedrwn ni ddim yn hawdd egluro beth)…. a’r ymgyrch Adael – yr un mor brin o ffeithiau, ond yn pwyso’n drwm ar feithrin yr ymdeimlad o negyddiaeth oedd yn amlwg wedi gafael, ond ein bod yn gwybod bellach ei fod wedi gwreiddio’n ddyfnach ac yn gadarnach nac y gwnaethom ddychmygu.

Cychwynnodd Mehefin 24 i mi yn stiwdios radio’r BBC ym Mangor. Roeddwn wedi bod yn poeni mai dyma fyddai canlyniad y bleidlais, ond roedd gweld y peth yn digwydd wedi fy syfrdanu. Pan wneuthum alwad ffôn gyflym i’m cartref, roedd fy nhri phlentyn mewn dagrau. Pan feiddiodd Theresa May ddweud yn Fflorens yr wythnos ddiwethaf nad oeddem ni – y DG – erioed wedi teimlo’n wirioneddol gartrefol yn yr Undeb Ewropeaidd, doedd hi ddim yn siarad drosta’i, doedd hi ddim yn siarad dros fy nheulu.

Bu fy ngwraig yn fyfyrwraig Erasmus– y rhaglen ryfeddol honno, a sefydlwyd gan Gymro, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ledled yr UE rannu gwybodaeth a phrofiadau diwylliannol trwy astudio yng ngwledydd eraill yr UE. Roedd hi’n astudio Ffrangeg ac Eidaleg, gan dreulio amser ym mhrifysgolion Annecy a Parma. Roeddwn i wedi treulio amser yno gyda hi – cariadon coleg oeddan ni, yn dathlu 20fed penblwydd ein priodas y flwyddyn nesaf. I’n plant, dyma yw’r norm.

Pan fyddwn ni’n teithio ar hyd Ewrop – pabell yn Ffrainc oedd hi yr haf hwn – nid ymweld â gwlad ddieithr y byddwn ni, ond gwlad arall – ie – ond un y mae gennym gysylltiadau â hi trwy gyd-fenter. Rydym yn wahanol ac yn amrywiol – mae gennym ein hieithoedd a’n traddodiadau ein hunain – ond ar yr un pryd, un ydym. Beth welson nhw ar fore Mehefin 24 2016 oedd bod rhan o’u dyfodol wedi ei gipio ymaith – y rhyddid i deithio ac astudio a gweithio a chwarae a llunio rhwydweithiau a rhannu syniadau. Fe fyddant yn dal i fedru MYND yno, wrth gwrs, efallai y byddant hyd yn oed yn gweithio yno – pwy a ŵyr, ond i gyfyngu ar eu gorwelion? I beth? Dyna’r hyn nad oedden nhw’n gallu ei ddirnad.

Efallai ei bod yn werth nodi yma sut, fel cenedlaetholwr Cymreig sy’n ceisio ymreolaeth i Gymru, fy mod yn cysoni hyn â’m barn am yr Undeb Ewropeaidd. Onid ydw innau hefyd am dorri hualau a chau ein hunain i ffwrdd… ydw i? I ddefnyddio gair sy’n cael ei luchio o gwmpas yn aml amdanaf i a’m bath, boed yng Nghymru neu’r Alban, neu yng Nghatalonia… onid ARWAHANWR ydw i?!

Gadewch i mi ddweud wrthoch chi– mae’r cenedlaetholdeb sydd gennym ni yng Nghymru… ym Mhlaid Cymru, ond gobeithio hefyd ymysg mwy a mwy o bobl mewn pleidiau eraill a’r tu allan i bleidiau – yn genedlaetholdeb sifig sy’n fater o adeiladu ein cenedl mewn partneriaeth ag eraill. Mae fy ngweledigaeth i o Gymru sofran, hunan-lywodraethol yn un fyddai â phartneriaethau agored, cadarn â gwledydd eraill yr ynysoedd hyn a thu hwnt yn greiddiol iddi. Byddai ganddi berthynas mor agos ag sydd yn BOSIB â Lloegr, Iwerddon… ac, ie, â gweddill yr UE.

I’r sawl sydd rywsut wedi bod yn ceisio ‘annibyniaeth i’r DG’, gadewch i mi ddweud wrthych fod y DG, ac y bu erioed trwy gydol ei haelodaeth o’r UE, yn annibynnol. Ceisiwch edrych ar berthynas wleidyddol Cymru â’r DG o safbwynt Cymro neu Gymraes, a dyna pryd y gwelwch wirionedd gwadu’r rhyddid i lywio eich tynged eich hun. Nid un wladwriaeth o’r UE. Mae wedi ei ffurfio o wladwriaethau annibynnol. Buaswn i wrth fy modd yn gweld Cymru yn aelod o Undeb Prydeinig ac Ewropeaidd o genhedloedd, pob un â’i blaenoriaethau ei hun a’i nodweddion od a’i ffyrdd ei hun o wneud pethau, ond gan weithio ynghyd ar y meysydd hynny sydd o les i bawb. Dyna, i mi, fu hanes yr UE.

Beth sydd i ni yn y dyfodol felly?

Wel, aeth pymtheng mis heibio ers y refferendwm, a’r gwir yw – nad oes gennym fwy o eglurder am sut beth fydd Cymru a Phrydain wedi’r UE; pa heriau newydd a – gadewch i ni fod yn bositif – pa gyfleoedd newydd fydd gennym, nac oedd gennym cyn cynnal y bleidlais.

Ein hymateb yn syth fel plaid oedd ceisio amlygu beth oedd yn y fantol. Roedd gennym dasg i berswadio Llywodraeth Cymru am yr angen i weithredu yn bendant. Fe wnaethom alw pleidlais yn y Cynulliad Cenedlaethol fis Tachwedd diwethaf yn ceisio cefnogaeth y Cynulliad i egwyddor parhau ag aelodaeth o’r Farchnad Sengl. Methodd Llywodraeth Lafur Cymru â chefnogi hynny. Roedd angen i ni ddwyn pwysau yn hyn o beth. Yr oeddem yn gyd-awduron Papur Gwyn rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru o’r enw ‘Sicrhau Dyfodol Cymru’, oedd yn datgan y dylai Cymru barhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl, naill ai fel aelodau o EEA a/neu EFTA, neu gyda math newydd o gytundeb. Galwodd hefyd am ddatblygu polisi rhyngwladol cynhwysfawr newydd i Gymru, ac am ail-lunio’r ffordd y mae’r DG yn gweithio fel na fyddai modd dod i unrhyw gytundeb heb gydsyniad Cymru a’n Cynulliad Cenedlaethol. Crybwyllwyd yn arbennig amddiffyn y diwydiant amaethyddol, a datganiad clir nad “darnau bargeinio” mo mewnfudwyr Ewropeaidd yng Nghymru, a’u bod yn cyfrannu i’n cymdeithas.

Roedd yn bwysig iawn gwneud hyn, ond does dim syndod nad yw Llywodraeth y DG wedi rhuthro i gytuno â’n barn.
Nid yn unig y mae amharodrwydd i fwrw ymlaen mewn ffordd fydd yn rhoi llais ystyrlon i Gymru, ond mae gennym fesur diddymu sy’n mynd trwy senedd y DG ar hyn o bryd sy’n tanseilio ac yn cipio grym yn ôl oddi wrth bobl Cymru a’u Cynulliad a Llywodraeth Cymru a etholwyd yn ddemocrataidd.

Bydd y Mesur Ymadael yn rhoi i Weinidogion y DG bwerau i weithredu heb fod angen caniatâd y Senedd, gan gynnwys pwerau i newid deddfwriaeth Gymreig. Bydd hefyd yn sicrhau y bydd unrhyw bwerau a ddelir ar hyn o bryd ar lefel yr UE sy’n cael eu cymryd yn ôl, hyd yn oed mewn meysydd polisi a ddatganolwyd, yn cael eu dal yn Llundain.

Fel y dywedasom dro ar ôl tro – rydym yn ystyried bod y Mesur hwn yn sarhad ar ddemocratiaeth. Cawsom ddau refferendwm yng Nghymru yn cadarnhau ewyllys pobl Cymru ynghylch pwerau ein Cynulliad a’n Llywodraeth – ac y mae‘n hynod ragrithiol i Lywodraeth y DG awgrymu mai NI, trwy bleidleisio yn erbyn y Mesur Diddymu, sydd yn tanseilio egwyddorion democratiaeth! Dyma realiti Brexit i Gymru mewn termau democrataidd – cipio grym gan Lywodraeth y DG, a thanseilio ein llais cenedlaethol.
Felly do, fe wnaeth ASau Plaid Cymru bleidleisio yn erbyn y Mesur Diddymu y mis yma, fel y gwnaethant bleidleisio yn erbyn tanio Erthygl 50. Ac a bod yn onest, profodd araith y Prif Weinidog yn Fflorens yr wythnos hon ein bod yn iawn i ddweud nad yw’r DG, rywsut, yn barod!

Ar ôl cychwyn y cloc, a hithau eisoes heb baratoi o gwbl, beth wnaeth y Prif Weinidog? Galw etholiad! Rhoddodd ei hawydd i’w gwarchod ein hun o flaen yr angen i fwrw ymlaen â’r gwaith. Collwyd amser prin, a nawr fod y Prif Weinidog wedi dweud yn swyddogol yr hyn fu’n berffaith amlwg, na fydd Prydain yn barod erbyn dechrau 2019… mae’r gwirionedd yn dechrau brifo.
Felly cyfnod trosiannol amdani. Wrth gwrs y bydd yn rhaid cael un! Ac y mae’r byd yn chwerthin am ben tîm trafod sydd heb syniad am beth maen nhw’n gofyn, a dim clem am y canlyniad yn y pen draw. Nid croesi bysedd, prynu amser a gobeithio’r gorau yw’r ffordd orau i drin cwestiynau mor sylfaenol am ddyfodol y wladwriaeth Brydeinig.

A fe pe na bai gwacter yr araith yn Fflorens yn ddigon, mae’r ffaith fod graddfa gredyd y DG wedi’i israddio gan asiantaeth Moody dros y penwythnos yn brawf pellach o effeithiau ansicrwydd. Dywedodd yr asiantaeth: “mae’n debyg y cymer flynyddoedd i drafod unrhyw gytundeb masnach rydd, fydd yn estyn yr ansicrwydd presennol i fusnesau “. Prawf unwaith eto fod ceisio Brexit caled yn peryglu ein heconomi.

Rydym ni wedi dweud yn glir o’r cychwyn fod parhau ag aelodaeth o’r Farchnad Sengl ac o’r Undeb Tollau yn hanfodol er mwyn amddiffyn buddiannau Cymru. Dyna sut y gall ein cwmnïau barhau i fasnachu, sut y gallwn amddiffyn ein hallforwyr, ac amddiffyn porthladd Caergybi, er enghraifft. Y mae tariffau masnach a rhwystrau masnach a thollau eraill allai fod yn niweidiol dros ben i lif nwyddau.

Ond ni ddylem anghofio llif y bobl fu’n llesol i Gymru mewn cymaint o ffyrdd. Yr wythnos diwethaf yn y Cynulliad, dywedodd fy nghydweithiwr Steffan Lewis, AC Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru fu’n dadansoddi’n rhagorol fygythiad a realiti Brexit, fod tuedd bendant yn dod i’r amlwg ein bod yn cael trafferth denu’r niferoedd o bobl y mae arnom eu hangen i’n heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus. Y mae hyn i’w briodoli, meddai, i’r “neges sy’n cael ei anfon allan gan Lywodraeth y DG y weddill y byd”. Ail-adroddodd ein galwad am hawl i Gymru roi fisas a thrwyddedau wedi Brexit fel y gallwn gynllunio ar gyfer ein hanghenion ein hunain. Afraid dweud nad yw hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth y DG am ei roi i Gymru.

Ond, awgrymodd Steffan, gallai Dinas Llundain gael pwerau o’r fath i roi trwyddedau. “Os yw hwn yn wir yn deulu o bobl gyfartal ac yn deulu o genhedloedd,” meddai “yna ni fydd yn dderbyniol i Lundain, i un rhanbarth o’r DG sydd eisoes â mantais economaidd a gwleidyddol enfawr dros bawb arall – gyda holl ffurf economaidd y Deyrnas Gyfunol yn seiliedig ar yr un gornel honno – … os caniateir iddyn nhw gael eu trwyddedau eu hunain, heb i’r gweddill ohono eu cael, yna bydd effaith hynny’n llethol i wlad fel Cymru.”

Ac y mae’n iawn – nid yn unig i’r rhannau hynny o’r economi sydd angen pobl na allwn eu cael yma, ond hefyd i’n sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae arnom ddyled enfawr i’r meddygon a’r nyrsys hynny a gweithwyr iechyd proffesiynol hynny o wladwriaethau eraill yr UE sy’n gweithio’n galed yn ein gwasanaeth iechyd, ac yr ydym eisoes yn gweld, trwy ddiffyg gweithredu Llywodraeth y DG, yn teimlo nad oes gwerth iddynt. Fyddai dim modd i ni weithredu hebddynt Ac ofni yr ydw i na fydd modd i ni hyd yn oed fesur y niferoedd FYDDAI wedi ystyried dod yma, ond sydd wedi ailfeddwl am eu bod yn teimlo na fyddai croeso iddynt, neu y buasent yn cael eu gyrru’n ôl rywbryd ynn y dyfodol.

Dywedais cyn hyn fy mod yn deall pam y buasai pobl wedi pleidleisio i adael am eu bod wedi syrffedu â’r ffordd y mae pethau. Dyn a ŵyr nad ydw i’n union yn pledio’r status quo fy hun! Rwy’n deall y fam ifanc yng Nghaergybi a ddywedodd wrthyf nad oedd yn gwybod pam y pleidleisiodd i adael, ond fod ei thad wedi gwneud, a’i bod wedi ei ddilyn ef. Efallai nad oedd ganddi’r wybodaeth i allu dod i unrhyw gasgliad arall.

Rydw i hefyd yn parchu’r rhai wnaeth benderfyniad gwybodus nad yw’r UE yn rhywbeth iddynt hwy, nad ydynt yn hoffi ffurfiau’r UE– maint yr UE, efallai.

Ond yr hyn na allwn fyth ddweud yw bod “y DG, neu Gymru, wedi pleidleisio i ADAEL oherwydd x”. Oherwydd un ffactor, neu nifer o ffactorau penodol. Fedrwn ni ddim dweud fod pobl wedi pleidleisio i adael am eu bod eisiau cyfyngu ar fewnfudo. Fe wnaeth llawer, rwy’n siŵr, ond mae’r rheswm pam y gwthiodd y garfan Gadael fymryn ar y blaen yn niferus a chymhleth.

Fe fydda’i yn wastad yn pledio achos aros yn yr UE, a tydw i ddim yn meddwl y buasai neb yn disgwyl i mi fod wedi newid fy meddwl ers y refferendwm. Y bleidlais oedd y bleidlais, a does dim modd dileu hanes yr hyn a ddigwyddodd yn y refferendwm ar Fehefin 2016, ac yr wyf yn parchu’r canlyniad. Ond mae’r sawl bleidleisiodd i aros A’R sawl bleidleisiodd i adael yn rhannu dyfodol cyffredin, ac y maent OLL – pawb ohonom – yn haeddu gonestrwydd gan Lywodraeth y DG. Gonestrwydd am the realiti. Gonestrwydd am yr anawsterau. Gonestrwydd am yr hyn sydd yn y fantol.

Mae’r polau eisoes yng Nghymru yn dangos y byddai’r canlyniad yn wahanol erbyn hyn. A’m gobaith i yw n union fel y gweithredwyd ar ewyllys y bobl gan y gwleidyddion Brexit caled wedi’r refferendwm, y bydd ewyllys y bobl yn cael ei fesur yn ofalus dros ben wrth i amser gadael yr UE nesáu. Ail refferendwm? Holi’r un cwestiwn eto? Wel, na. Byddai hynny’n awgrymu dadwneud y canlyniad cyntaf. Mae’r canlyniad hwnnw yn sefyll – ond fydd yr amwysedd fyth yn fy modloni. Ond beth am bleidlais o’r newydd ar y cytundeb a geir – beth mae Brexit yn olygu MEWN GWIRIONEDD? Yn fy marn i, dylasai hynny fod wedi bod yn rhan o’r cynllun o’r cychwyn.

Dyw rhuthro ar ras wyllt i Brexit caled fel llwybr sy’n cael ei gynnig DDIM, yn fy marn i, yn rhywbeth fuasai wedi cael ei gefnogi gan fwyafrif y bobl yng Nghymru, yn enwedig nawr AR ÔL y refferendwm – o, yr eironi – AR ÔL y refferendwm, ein bod wedi cael peth amser i drafod beth mae Brexit mewn gwirionedd yn ei feddwl. Rwy’n meddwl i arweinydd Ceidwadwyr Cymru daro’r hoelen ar ei phen pan ddywedodd trwy gamgymeriad – “Brexit means breakfast.” Roedd o yn llygad ei le, smonath o frecwast sy’n ein gadael mewn perygl o fod gymaint yn waeth ein byd. Er mwyn bod yn “ynysig ysblennydd” – rhoi i’r DG ‘annibyniaeth’ oedd ganddi eisoes. Annibyniaeth – neu, fe ddylwn ddweud, cyd-ddibyniaeth, a gallu i chwarae ei rhain ochr yn ochr ag eraill yn gyfartal – dyna’r hyn rwy’n dymuno i ‘nghenedl gael un dydd hefyd.