Ar ôl blynyddoedd o waith cadwraethol caled staff RSPB Malltraeth, mae aderyn y bwn wedi nythu ar RSPB Malltraeth (Cors Ddyga) yn Ynys Môn yr haf yma – y tro cyntaf yng Nghymru mewn 32 mlynedd.
Dywedodd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth:
“Rydw i’n falch iawn o glywed fod Aderyn y Bwn yn ôl yng Nghymru ar ôl dros 30 mlynedd. Llongyfarchiadau mawr i’r staff yn Malltraeth ac i wylwyr adar lleol.
“Rydw i’n cefnogi’r gwaith rhagorol mae RSPB yn ei wneud o ran adar ym Môn, yn enwedig o ran y Fran Goesgoch y mae gen i’r anrhydedd o fod yn bencampwr rhywogaeth iddo!”