Banc Bwyd Ynys Môn yn parhau i ofalu am bobl mewn angen

Yr wythnos hon, bu i Rhun ap Iorwerth ymweld â gwirfoddolwyr gweithgar banc bwyd newydd a gafodd ei sefydlu dros y cyfnod clo.

Mewn cydweithrediad â’r Cyngor Sir mae Banc Bwyd Ynys Môn wedi ymestyn o Gaergybi, i leoliad dros dro yn Neuadd yr Eglwys, Llangefni. Mae’r banc bwyd newydd yn agor y drws i unigolion a theuluoedd sy’n methu prynu bwyd, ac mae’n agored rhwng 10-2 bob dydd Llun, Mercher a Gwener. Maen nhw hefyd yn cludo nwyddau ar hyd a lled yr Ynys, er mwyn ymateb i ofynion gan bobol sydd ddim yn byw o fewn cyrraedd Caergybi a Llangefni.

Cafodd y banc bwyd yma ei sefydlu yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion o bobol oedd angen Cymorth i gael bwyd ar y bwrdd yn ystod y cyfnod clo. Roedd ymateb cyflym ac effeithiol Medrwn Môn yn galw am wirfoddolwyr Cymunedol i ymgysylltu a phobol allai fod angen Cymorth o fewn ei hardaloedd lleol, yn golygu fod cyswllt da yn cael ei wneud o fewn ardaloedd, a daeth yn amlwg fod mwy o bobol nac erioed yn byw mewn tlodi yma ym Môn.

Yn ol Roy Files un o sylfaenwyr y Banc Bwyd: “Roedd yr angen am gymorth bwyd wedi cynyddu yn sylweddol dros y cyfnod clo. Roedd yr un nifer o atgyfeiriadau (referrals) yn dod mewn yn ddyddiol yn ystod y cyfnod clo, ag oedd yn arfer dod mewn wythnos cyn y cyfnod clo.

“Ar hyn o bryd mae’r angen wedi tawelu unwaith yn rhagor, ond mae cynnydd i weld ar y gorwel. Rydym yn rhagweld cynnydd cyflym pe byddai Ynys Mon yn cael ei roi ar glo eto, ac mae’r gaeaf hefyd yn dod a’i broblemau ac anghenion pobol dros y Nadolig hefyd.”

Er mwyn cynnig cymorth i Fanc Bwyd Ynys Môn, bydd Rhun ap Iorwerth unwaith eto eleni yn cynnal yr ymgyrch flynyddol ‘Calendr Adfent o Chwith’ mewn cydweithrediad gyda gweithleoedd ac ysgolion ar hyd a lled Ynys Môn.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Eleni eto, rydym yn gobeithio medru cyd-weithio gydag Ysgolion Cynradd ac Uwchradd Môn, yn ogystal â gweithleoedd i gymryd rhan yn yr ymgyrch flynyddol ‘Calendr Adfent o Chwith’ ble rydym yn annog pawb sydd yn medru gwneud hynny, i ‘roi’ eitem mewn basged ym mis Rhagfyr a thros gyfnod yr Adfent. Byddwn yn trefnu bod popeth yn cyrraedd y Banc Bwyd, ac yn cael ei ddosbarthu i drigolion lleol sydd ddim yn gallu prynu bwyd, nac nwyddau ymolchi.”

Os oes gennych ddiddordeb fod yn rhan o’r ymgyrch ‘Calendr Adfent o Chwith’ eleni, cysylltwch gyda Swyddfa Etholaeth Rhun ap Iorwerth drwy ffonio: 01248 723 599 neu ebostio: rhun.apiorwerth@senedd.cymru