AC yn gofyn am gefnogaeth parhaol i Barc Bwyd Môn

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi gofyn i Lywodraeth Cymru barhau i gefnogi’r syniad o barc cynhyrchu bwyd yn dilyn etholiadau’r Cynulliad a’r refferendwm ar aelodaeth o’r UE.

Yn siarad yn siambr y Cynulliad, gofynnodd Rhun ap Iorwerth AC i’r Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

“Rydw i’n bryderus iawn am beth sy’n mynd i fod yn digwydd i’r RDP yn y blynyddoedd i ddod. Mi fues i’n cynnal trafodaethau efo rhagflaenydd y Gweinidog ynglŷn â’r posibilrwydd—efallai drwy arian RDP, ac yn sicr, bron, drwy ddefnydd o arian Ewropeaidd—o sefydlu parc cynhyrchu bwyd yn Ynys Môn. Roeddwn i’n ddiolchgar iawn iddi hi a’i swyddogion am ymateb yn bositif i’r syniad yna. Mi fuaswn i’n gwerthfawrogi cadarnhad bod y Llywodraeth, o dan yr Ysgrifennydd Cabinet newydd, yn parhau i gefnogi’r syniad hwnnw mewn egwyddor ac yn barod i’w drafod ymhellach. A wnaiff yr Ysgrifennydd wneud sylw am beryglon Brexit i’r cyfleon i fwrw ymlaen efo cynllun o’r fath, a sut i oresgyn hynny, gan gynnwys, wrth gwrs, y posibilrwydd o symud ymlaen yn gyflym iawn efo’r fath gynllun?”

Yn siarad ar ôl y cyfarfod llawn, dywedodd Mr ap Iorwerth added:

“Roeddwn yn falch o glywed yr Ysgrifennydd Cabinet yn dweud ei bod yn hapus iawn i barhau i gefnogi’r cysyniad o barc bwyd. Byddaf yn awr yn ceisio cyfarfod gyda hi i drafod sut i symud pethau ymlaen.”