Aros neu adael?

Mae refferendwm yr wythnos hon ar ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd o arwyddocâd enfawr, ac yr wyf yn annog pawb i gydnabod y manteision i ni yma ar Ynys Môn o aros i mewn.

Y prif beth dwi’n ei glywed gan y rhai sy’n dal heb benderfynu yw dryswch. “A ddylem aros neu a ddylem ni fynd? Pwy sy’n dweud y gwir?”

Gadewch i ni ofyn ar beth ydym ni am wneud ein penderfyniad?

Ydym ni eisdiau aros mewn bloc masnach rydd o 500 miliwn o bobl? Byddwn i’n dadlau fod hwn yn un hawdd. Dyna pam mae’r mwyafrif helaeth o fusnesau eisiau aros i mewn.

Ydym ni eisiau sicrhau’r heddwch y mae cydweithio wedi dod gydag o? Eto, un syml. Gwae ni i gymryd 70 mlynedd o sefydlogrwydd heddychlon yn ganiataol.

Ydym ni eisiau i Gymru fod yn rhan o rwydwaith UE-gyfan o genhedloedd a rhanbarthau? Mae hwn yn gwestiwn sydd ddim i glywed yn cael ei ofyn mewn dadl wedi’i arwain gan y cyfryngau Seisnig. Rydw i wedi gweld drosof fy hun sut mae cydweithio’n gweithio ar ystod eang o faterion – o’r economi i ddiwylliant, iaith i ymchwil prifysgol – a fyddwn i ddim eisiau colli hynny.

Ydym ni eisiau torri cymorth gan yr UE i’n diwydiant ffermio? Cofiwch fod cymorthdaliadau a delir i ffermwyr yn cael eu gwario o fewn ein heconomïau gwledig. A fyddai San Steffan yn talu yn yr un ffordd ac mae’r UE yn ei wneud? Dwi ddim yn credu y byddent.

Ydym ni eisiau gwneud i ffwrdd a’r cyllid Ewropeaidd mae Cymru’n ei gael dan raglenni adfywio? Dydy hwn ddim yn gyllid yr ydym ei eisiau – gan ei fod yn dod i ni oherwydd ein tlodi cymharol – ond gyda’r gydnabyddiaeth gyffredinol fod San Steffan eisoes yn tangyllido Cymru, does gen i ddim ffydd y byddai’r bwlch hwnnw’n cael ei lenwi.

Fe allwn i fynd yn fy mlaen.

Ond beth am ochr arall y ddadl? Y rhybuddion sy’n diferu fesul tipyn am “gael ein gwlad yn ôl” a mewnfudo. Allwn ni ddim gwneud ati fod mewnfudo ddim yn bwnc llosg. Mae o, oherwydd y canfyddiad am y bygythiad mae’n ei achosi. Yr hyn rwy’n ofyn ydy i chi edrych o’ch cwmpas o ddifrif a meddwl am y ‘bygythiad’ sy’n cael ei achosi gan fewnfudo o wledydd eraill yr UE – ai’r doctoriaid yn Ysbyty Gwynedd ydy o? y myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor? gweithwyr yn y sector lletygarwch? – a gofynnwch i’ch hunain yn ewyllys goddefgarwch a pharch, gwerthoedd sydd yn bwysig i ni i gyd, beth yw’r bygythiad go iawn.

Mae’r UE yn bell o fod yn berffaith. Fe allwn ni ei helpu i barhau i esblygu. Allwn ni ond gwneud hynny os ydym ni’n pleidleisio dros aros.