Arlunwyr y Dyfodol

Fel rhan o ddathliadau rhyngwladol ‘Diwrnod y Llyfr’ cynhaliwyd cystadleuaeth dra gwahanol gyda disgyblion Ysgol Gynradd Amlwch.

Tra bod sylw pawb arall ar gynnwys y llyfrau, Cloriau llyfrau oedd prif ffocws y gystadleuaeth a drefnwyd gan athrawon yr Ysgol.

Y dasg i ddisgyblion y Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1 oedd creu llun o’u hoff gymeriad llyfr. Tra bod disgyblion blwyddyn 2 a 3 yn creu clawr i’r llyfr dychmygol ‘Tedi ar goll yn y Sw’ a bu i ddisgyblion blwyddyn 4,5,a 6 greu clawr i’r llyfr dychmygol ‘Cyfrinach y Trysor Cudd’.

Rhun ap Iorwerth AC Ynys Môn oedd beirniad y gystadleuaeth, ac meddai:

“ ‘Roedd hi’n gystadleuaeth agos iawn, ac mae’n amlwg fod yma blant talentog iawn yn Ysgol Gynradd Amlwch!

“Llongyfarchiadau i Pheobe, Cadi a Tyler – daliwch ati i lunio!”