Apêl AC am gymorth llywodraeth i drwsio’r difrod a achoswyd gan y llifogydd diweddar i’r A545

Fe wnaeth Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth godi cwestiwn amserol yn y Cynulliad heddiw ynglŷn â’r llifogydd diweddar ym Môn, ac yn benodol y difrod i’r A545 rwng Porthaethwy a Biwmares.

Ar ôl codi’r bygythiad i’r lon gyda’r Llywodraeth yn y gorffennol, gwnaeth Rhun apêl i weld pa gymorth ariannol ellid ei roi i drwsio’r difrod a achoswyd gan y llifogydd, ac roedd yn falch o glywed y Llywodraeth yn dweud y byddent yn barod i ystyried cais am gymorth ariannol.

Yn siarad yn y Senedd heddiw, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“A gaf i, ar ran y Cynulliad, yn gyntaf anfon ein cydymdeimlad at bawb gafodd eu taro gan y llifogydd? Rwyf wedi ymweld â’r rhan fwyaf o ardaloedd gafodd eu taro erbyn hyn ac mae’n dorcalonnus gweld yr effaith ar dai, y loes mae llifogydd yn ei achosi i bobl, llawer ohonyn nhw yn fregus, a busnesau hefyd—busnesau fel Becws Glandwr yn Llangefni, yn methu â phobi am y tro cyntaf mewn 40 mlynedd. Mae yna lawer o elfennau o’r llifogydd lle bydd angen gwneud cysylltiad â’r Llywodraeth a’i hasiantaethau, wrth gwrs, ar atal llifogydd—cyswllt efo Cyfoeth Naturiol Cymru ac ati—ond rwy’n falch o gael y cyfle yma i drafod yn benodol y difrod a gafodd ei achosi i’r A545 rhwng Porthaethwy a Biwmares, a goblygiadau hirdymor hynny.

“Rwyf eisiau llongyfarch y cyngor am ymateb yn syth. Mi fues i’n siarad efo peirianwyr ddydd Gwener, wrth iddyn nhw wneud gwaith brys er mwyn gallu trio ailagor y ffordd honno, a hynny ar ben llethr serth iawn yn syth i’r môr. Rwyf yn gobeithio y bydd modd agor un lôn o’r ddwy yn fuan, achos ar hyn o bryd nid oes yr un ffordd ar agor i bob cerbyd allu mynd i Fiwmares o gwbl. Mae’n bosib i geir ddefnyddio cefnffyrdd, ond rwyf wedi siarad â busnesau, er enghraifft, sy’n gorfod teithio efo faniau i gyfarfod loris sy’n delifro nwyddau iddyn nhw sy’n methu â chyrraedd Biwmares o gwbl oherwydd pontydd isel i mewn i’r dref.

“Mae yna lawer o dirlithriadau wedi bod ar y ffordd yma yn y gorffennol, ond llithriadau i’r ffordd o uwchben oedd y rheini. Y tro yma, llithriad o’r ffordd i gyfeiriad y môr sydd wedi bod. Mae hynny’n llawer mwy difrifol achos mae’n bygwth sylfeini’r ffordd ei hun, wrth gwrs. Rwyf yn y gorffennol wedi tynnu sylw’r Llywodraeth at yr ofnau bod angen gwneud gwaith cryfhau sylweddol ar y ffordd yma er mwyn ei diogelu at y dyfodol, ac mae’r costau yn mynd i fod yn sylweddol. Felly, a gaf i apelio ar y Llywodraeth i weld pa gymorth ariannol y gellir ei roi i Gyngor Sir Ynys Môn yn gyntaf, i drwsio’r difrod a achoswyd gan y llifogydd yma—mae hynny’n debyg o fod yn £0.25 miliwn—ond hefyd i wneud y gwaith cryfhau sydd ei angen ar gyfer gwytnwch hirdymor? Ni all Biwmares a dwyrain Ynys Môn fforddio cael eu hynysu fel hyn. Heb fuddsoddiad rŵan a chymorth gan y Llywodraeth, rwy’n ofni mai dyna fydd yn digwydd yn amlach ac yn amlach yn y dyfodol.”