AC Môn yn croesawu cyflymu’r gwaith ar gynllun busnes i groesiad y Fenai

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando am groesiad y Fenai.

Yn y Cynulliad yr wythnos hon, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi ac Isadeiledd fod Llywodraeth Cymru yn cyflymu’r gwaith sydd yn cael ei wneud ar gynllun busnes ar gyfer trydedd croesiad ar draws y Fenai.

Dywedodd AC Môn Rhun:

“Byddaf yn parhau i bwyso ar y Llywodraeth i weithredu, ond rydw i’n falch o glywed yr Ysgrifennydd yn dweud eu bod nhw’n cyflymu’r gwaith ar gynllun busnes ar groesiad ar draws y Fenai.

“Rydw i wedi gwthio’n galed ar hyn, ac wedi codi’r mater yn y siambr gyda’r Ysgrifennydd, ac rydw i’n falch fod y Llywodraeth yn gwrando. Mae’n bwysig symud ymlaen hefo hyn a thaclo’r problemau tagfeydd a hydwythedd ar groesiad y Fenai.”