Mae AC Ynys Môn yn galw ar Lywodraethau Cymru a’r DU i gamu i fyny yn dilyn ataliad Wylfa.

Mewn cwestiwn brys i Lywodraeth Cymru heddiw, mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, wedi galw ar Lywodraeth y Cynulliad a’r DU i fuddsoddi’n sylweddol yn economi’r ynys, yn dilyn penderfyniad diweddar Hitachi i atal prosiect Wylfa Newydd.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Hitachi eu bod yn rhoi’r gorau i ddatblygiad Wylfa Newydd oedd werth £15 biliwn, sy’n ergyd sylweddol i economi Ynys Môn yn arbennig, gyda hyd at 1,000 o swyddi medrus iawn a addawyd ar gyfer Wylfa Newydd.

Gwthiodd Mr ap Iorwerth am ymrwymiad gan y Gweinidog Economi Ken Skates am fuddsoddiad sylweddol i economi’r ynys yn dilyn penderfyniad Hitachi.

Dywedodd AC Ynys Môn:

“Mae’n amlwg bod angen i Ynys Môn, ac yn wir Gogledd Cymru, weld buddsoddiad ychwanegol i’r economi rwan, i wneud iawn am yr hyn sy’n cael ei golli – o leiaf yn y tymor byr. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi arwyddion y byddai’n buddsoddi ymhellach yn Nhwf Bid Gogledd Cymru, ond heddiw galwais arno i addo gwneud union hynny – mae angen i fuddsoddiad yng Ngogledd Cymru gynyddu’n sylweddol rwan.

“Mae gwleidyddiaeth niwclear yn un peth, wrth gwrs, ac yr wyf yn deall y dadleuon o blaid ac yn erbyn, ond fel datblygiad economaidd, roedd y cyhoeddiad i atal y prosiect hwn yn ergyd go iawn i bobl ifanc Ynys Môn, ac mae angen iddyn nhw weld bod popeth a ellir ei wneud yn cael ei wneud i fuddsoddi yn eu dyfodol.

“Mae arnom angen buddsoddiad sylweddol mewn cynlluniau adfywio, ac mewn prosiectau arloesol ar draws Ynys Môn, ond yn enwedig yng ngogledd yr ynys ac ardal Amlwch. Mae angen inni weld ail-agor Lein Amlwch, mae angen inni weld buddsoddiad i gysylltu parth ynni morol Morlais, mae angen inni weld cefnogaeth i’r arloeswr ynni adnewyddadwy morol – Minesto. ”

Ond dywedodd fod yn rhaid i Lywodraeth y DU ddangos ei hymrwymiad hefyd.

“Dro ar ol tro, mae prosiectau mawr a addawyd i Gymru gan Lywodraeth y DU wedi dod i ddim byd. Gadewch i ni roi pwysau ar Lywodraeth y DU i ddangos ei hymrwymiad trwy gynyddu ei gyfraniad i Ynys Môn a Gogledd Cymru, trwy’r Bid Twf.”