Amser am drydedd bont dros y Fenai, medd Rhun

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi dweud ei bod hi’n amser gwthio am drydedd pont ar draws y Fenai i ddelio gyda materion yn ymwneud a thagfeydd traffig, hydwythedd a diogelwch.

Mae’r AC Plaid Cymru wedi hen alw ar y llywodraeth i edrych ar drydydd croesiad ar draws y fenai. Nawr, mewn llythyr yn diweddaru Rhun wedi iddo godi’r mater gyda’r Llywodraeth ar sawl achlysur, mae Gweinidog Trafnidiaeth Cymru yn ymddangos i gefnogi ei alwad, gan ddweud na fyddai’r opsiwn arall tymor byr / canolig sydd wedi’i awgrymu, tair lôn ar y bont bresennol, yn ddiogel. Dywed y gweinidog y byddai trydydd croesiad yn datrys y problemau tagfeydd presennol ar Bont Britannia.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Rydw i’n falch fod Llywodraeth Cymru yn awr yn cefnogi’r egwyddor bod angen datrys problem Pont Britannia. Daeth ymgynghoriad, o dan arweiniad y cyn-Weinidog Trafnidiaeth a fy rhagflaenydd fel AC Ynys Môn Ieuan Wyn Jones, hefyd i’r casgliad yma. Mae hi rŵan yn amser gweithredu.

“Mae’r ddwy bont sydd yn gwasanaethu Ynys Môn yn llwybrau trafnidiaeth allweddol i ogledd Cymru, ac yn goridorau trafnidiaeth Ewropeaidd bwysig hefyd. Ond mae pob un ohonom ni sydd yn defnyddio’r pontydd yn rheolaidd yn gwybod bod tagfeydd difrifol yn digwydd yno’n aml.”

Dywed Mr ap Iorwerth ei bod hi am fwy na thagfeydd traffig ar amseroedd brig:

“Nid yn unig fod tagfeydd yn niweidiol i’r economi, mae pryder difrifol am hydwythedd. Mae pont dwy lôn yn tueddu i gael ei gau, fel y digwyddodd yn ddiweddar mewn gwyntoedd uchel. All ein gwasanaethau brys, er enghraifft, ddim parhau i wynebu’r risg o Fôn yn cael ei dorri i ffwrdd.”

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth y dylai hwn gael ei weld yng nghyd-destun cynlluniau Llafur i wario dros £1bn ar ddarn newydd o’r M4, pan fo opsiwn rhatach a’r un mor effeithiol ar gael.

“Gadewch i ni fuddsoddi rŵan mewn trafnidiaeth ar draws Cymru. Mae hynny’n cynnwys buddsoddi mewn gwell A55, un mwy dibynadwy, a thrydydd croesiad ar draws y Fenai – a gorau po gyntaf.”