Ail gartrefi yn costio’n ddrud i’r Cyngor, yn ôl Rhun ap Iorwerth

Mae ‘loophole’ sydd yn caniatáu i bobol gofrestru ail gartrefi fel eiddo busnes, gan osgoi talu trethi, yn costio’n ddrud i awdurdodau Lleol trwy ryddhau trethi busnes, ac mae’n rhaid i rywbeth newid yn ôl Llefarydd Cysgodol Plaid Cymru dros Economi a Chyllid, Rhun ap Iorwerth.

Yn ystod Sesiwn holi’r Prif Weinidog dydd Mawrth, cododd Rhun ap Iorwerth y mater a holodd beth fydd Llywodraeth Cymru yn wneud er mwyn datrys y mater, sydd nid yn unig yn costio’n ddrud i awdurdodau lleol, ond yn effeithio ar allu pobol ifanc i gael ar yr ysgol dai yn lleol.

Mynegodd AC Ynys Môn ei gefnogaeth at fentrau megis codi mwy o dreth Cyngor ar ail-gartrefi fel modd o wneud i bobol ail-feddwl cyn prynu, neu fel ffordd o ddod ag arian ychwanegol i mewn i’r Cynghorau Sir, ond dywedodd fod y bwlch sydd yn ymwneud a chofrestru ail gartrefi fel eiddo busnes angen ei ddatrys, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar ddatrys y mater yma sydd yn costio’n ddrud i Gynghorau.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Mae effaith pryniant ail-gartrefi ar y farchnad dai, a’r gallu gan bobol ifanc i gychwyn ar yr ysgol dai yn lleol – yn gwthio prisiau i fyny a phobol allan o’r farchnad dai.

“Rydyn ni’n ymwybodol o ddifrifoldeb y broblem, gyda 36 o dai ar yr Ynys wedi ei gwerthu yn 2017/18 fel ail-gartrefi, neu fel prynu-i-osod – ac mae’r broblem yn waeth yng Ngwynedd – sydd yn bryderus iawn.

“Rydw i’n gefnogol o fesurau fel codi cyfradd uwch o dreth Cyngor ar ail-gartrefi fel ffordd o wneud i bobol feddwl ddwywaith cyn prynu, neu fel ffordd o ddod ag arian ychwanegol i mewn i’r Cynghorau Sir, ond mae yma batrwm amlwg yn datblygu gyda mwy a mwy o bobol – yn hytrach nag yn talu treth Cyngor ar ail-gartrefi – yn cofrestru hwy fel eiddo busnes.

“Mae hyn yn golygu ei bod nhw’n gorfod talu trethi busnes, ond oherwydd ei bod nhw yn cael ei dosbarthu fel busnes bychan, maen nhw wedi ei rhyddhau o ardrethi busnes, sydd yn costio’n ddrud i’r Awdurdodau lleol. Mae yma fwlch sydd angen ei drwsio, ac rwy’n dymuno i Lywodraeth Cymru weithio i ddatrys y mater.”