Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi rhoi ei gefnogaeth i ymgyrch Dweud Na Wrth Ragfarn Oed a lansiwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
- ACau Plaid Cymru yn cefnogi’r ymgyrch ‘Na I Oedraniaeth’ / Plaid Cymru Ams backing the ‘Say No to Ageism’ campaign
Lansiwyd y fenter gan y Comisiynydd Sarah Rochira heddiw (Hydref 1) i nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC: “Nid yw rhagfarn yn erbyn pobl oedrannus yn cael ei amlygu’n gyhoeddus mor aml â materion hiliaeth neu rywiaeth, ac rwy’n croesawu ymgais y Comisiynydd i amlygu’r pwnc allweddol hwn.
“Mae pobl hŷn yn chwarae rhan bwysig ar draws cymunedau trwy wirfoddoli neu wneud gwaith gofalu, a gall rhagfarn yn erbyn pobl hŷn gael effaith ddramatig ar fywydau. Rhaid i ni gydnabod y cyfraniad mae pobl hŷn yn wneud. Mae’n hanfodol mynd i’r afael â chamwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn, yn lle ei anwybyddu.”