Rhun mewn pinc er mwyn codi arian i elusen

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth, AC dros Ynys Môn, sblash o binc i’w gwisg arferol er mwyn cefnogi digwyddiad codi arian gwisgwch rhywbeth pinc Breast Cancer Now, a gynhelir ddydd Gwener 19 Hydref i godi arian ar gyfer ymchwil hanfodol i ganser y fron.

Ymunodd 30 o aelodau eraill y Cynulliad yng Nghaerdydd yr wythnos hon, a phob un yn annog pobl ledled y DU i gymryd rhan yn niwrnod gwisgwch rywbeth pinc a chodi arian i Breast Cancer Now.

Mae Rhun ap Iorwerth yn galw ar ei etholwyr yn Sir Fôn i ymuno ag ef, yn ogystal â miloedd o bobl eraill ledled y DU, i gofrestru a chymryd rhan yn yr ymgyrch gwisgwch rywbeth pinc sy’n digwydd yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron, a hyd yn hyn mae wedi codi dros £31 miliwn tuag at waith pwysig Breast Cancer Now.

Gall unrhyw un gymryd rhan mewn gwisgwch rywbeth pinc, boed yn y gwaith, yn yr ysgol neu yn eich cymuned. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw gwisgo rhywbeth pinc, neu gynnal digwyddiad â thema binc, a rhoi’r arian i Breast Cancer Now. Â phob ceiniog a godir, bydd codwyr arian ledled y DU yn helpu’r elusen i gyflawni ei nod, os ydym i gyd yn gweithredu nawr erbyn 2050, bydd pawb sy’n datblygu canser y fron yn byw, a byw’n dda.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC:

“Canser y fron yw’r math mwyaf cyffredin o ganser o hyd yn y DU. Bob blwyddyn mae tua 11,500 o ferched ac 80 o ddynion yn colli eu bywydau i’r afiechyd. Dyna pam yr wyf mor angerddol wrth annog pawb yn Sir Fôn i gymryd rhan yn niwrnod gwisgwch rywbeth pinc ddydd Gwener 19 Hydref.

“Mae gwisgo pinc yn ffordd wych o ddod ynghyd â ffrindiau a theulu i gael hwyl wrth godi arian ar gyfer ymchwil hanfodol Breast Cancer Now. Fel y gwelwch o fy llun, y cyfan mae’n ei gymryd yw sblash ychwanegol o binc i’ch gwisg arferol!

“Mae canser y fron yn effeithio ar gymaint o bobl ar Ynys Môn felly rwy’n gobeithio y bydd pawb yn cymryd rhan ym mis Hydref eleni ac yn cefnogi’r achos pwysig iawn hwn.”

Yn ymuno â nhw yng Nghynulliad Cymru yng Nghaerdydd oedd seren roc o Gymru, Jules Peters, ynghyd â’i gŵr Mike. Mae Jules, a gafodd ddiagnosis o ganser y fron yn haf 2016, yn gobeithio y bydd pobl ledled Cymru a gweddill y DU yn ymuno â hi i gymryd rhan yn y digwyddiad codi arian,

Dywedodd Jules Peters, o band roc Cymru The Alarm:

‘”Wedi bod trwy ganser y fron fy hun, rwy’n falch iawn o fod yn cefnogi gwisgwch rywbeth pinc eleni, gyda fy ngŵr Mike – mae’n ddigwyddiad codi arian gwych sy’n dod â theuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr at ei gilydd i helpu ariannu ymchwil i’r clefyd ofnadwy yma, tra’n cael hwyl yr un pryd.

“Rwy’n hynod o angerddol am godi ymwybyddiaeth o’r clefyd, a rhannu fy mhrofiadau i helpu menywod eraill, sy’n gorfod wynebu diagnosis fel y gwnes i.Dyna pam rwy’n gofyn i bobl ledled Cymru ymuno â mi trwy wisgo mewn pinc ar 19 Hydref. Rhaid inni roi’r gorau i’r clefyd ofnadwy hwn, a’r unig ffordd i wneud hynny yw trwy barhau i ariannu ymchwil hanfodol. ”

Meddai’r Farwnes Delyth Morgan, Prif Weithredwr Breast Cancer Now:

“Rydym yn ddiolchgar iawn am y brwdfrydedd a’r gefnogaeth a ddangosir gan yr ACau yng Nghaerdydd. Roedd pawb yn edrych yn wych yn eu hategolion pinc ac yn dangos pa mor hawdd yw ychwanegu bach o binc i’ch gwisg bob dydd. Gobeithiwn trwy wisgo pinc, bydd Rhun yn annog ei etholwyr yn etholaeth i gymryd rhan a chodi arian yn eu cartrefi, ysgolion neu weithleoedd, a’n helpu ni i barhau i ariannu ymchwil o’r radd flaenaf i’r afiechyd dinistriol yma.

“Mae gwisgo pinc yn gyfle gwych i gymunedau ledled y DU ddod ynghyd, cael hwyl a dangos eu cefnogaeth i’r achos pwysig iawn hwn. Drwy wisgo rhywbeth pinc a rhoi’r hyn y gallwch chi, rydych chi’n helpu i godi arian sydd mawr ei angen i atal canser y fron rhag cymryd bywydau’r rhai yr ydym yn eu caru. Gyda’n gilydd, gallwn gymryd un cam ymlaen i helpu i gyrraedd ein nod, erbyn 2050, y bydd pawb sy’n datblygu canser y fron yn byw, ac yn byw’n dda. “