AC Ynys Môn yn canmol athletwyr Môn yn y Senedd a galw am gefnogaeth i gais Gemau’r Ynysoedd

Yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw, bu Rhun ap Iorwerth yn canmol tim Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn am ddod a 10 medal adref o Jerset.  Yn siarad yn y siambr, dywedodd:

“Rwy’n gwybod y gwnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi fod chwaraeon yn arf pwysig iawn o ran denu twristiaeth i Gymru, ac, o ran hynny o beth, tybed a wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi y byddai rhoi cefnogaeth gynnar gan Lywodraeth Cymru i’r cais i ddenu’r Gemau’r Ynysoedd i Ynys Môn yn 2025 yn arf twristaidd pwysig iawn i’r ynys.

“A sut allwn i, wrth gwrs, a finnau ar fy nhraed, beidio â rhoi gwahoddiad i’r Prif Weinidog i estyn llongyfarchiadau gwresog i’r tîm Ynys Môn a ddaeth yn ôl o Jersey ychydig dros wythnos yn ôl efo 10 medal?”

Ymatebodd y Prif Weinidog gan ddweud:

“A gaf i ymuno â’r Aelod ynglŷn â rhoi llongyfarchiadau i dîm Ynys Môn? Ac, wrth gwrs, fe fyddwn i’n fodlon i ystyried unrhyw gais ynglŷn â chael y gemau ar yr ynys yn y pen draw.”