AC yn siomedig gydag ymateb gwan y Llywodraeth i adroddiad ar hawliau maenorol

Mae AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi datgan ei siomedigaeth gydag ymateb gwan Llywodraeth y DG i adroddiad y Pwyllgor Cyfiawnder ar Hawliau Maenorol, gan ddweud nad yw wedi cymryd i ystyriaeth y poen meddwl y mae nhw wedi ei achosi.

Y llynedd, rhoddodd Rhun dystiolaeth i Bwyllgor Cyfiawnder Tŷ’r Cyffredin fel rhan o’u hymchwiliad i hawliau maenorol, a chafodd gyfle i siarad am brofiad etholwyr Môn yn achos Treffos.  Roedd adroddiad y Pwyllgor yn cynnwys rhai o’r pwyntiau a godwyd gan yr Aelod Cynulliad yn ei dystiolaeth, gan gynnwys yr angen i adolygu’r ddeddf yn fuan.

Mae Llywodraeth y DG yn awr wedi cyhoeddi eu hymateb nhw i’r adroddiad hynny ac yn siomedig iawn wedi dod i’r casgliad eu bod nhw “do not consider that referral of a specific project to the Law Commission outside its normal programme of law reform or the commitment of resources to the necessary preliminary work on the financial implications of abolition is currently justified”.

Ymateb Rhun ap Iorwerth oedd:

“Pan dderbyniodd pobl y rhybuddion yma ym Môn yn 2013, roedd llawer ohonynt yn poeni am effaith cael yr hawliau yma wedi’u cofrestru ar weithredoedd eu heiddo.  Er y byddai wedi bod yn anodd ymarfer yr hawliau hyn, bu rhai’n wynebu trafferthion yn ail-forgeisio neu’n gwerthu eu tai.  Daeth bron i 1000 o bobl i gyfarfod a drefnais ym Mhorthaethwy, gyda rhai’n dweud wrthyf eu bod nhw’n poeni eu bod nhw am golli eu cartrefi.

“Rydw i’n naturiol felly yn siomedig gydag ymateb mor wan gan y llywodraeth ynglŷn â hawliau maenorol, sydd ddim yn cydnabod y poen meddwl a’r dryswch y bu iddynt eu hachosi ym Môn, ac mewn rhannau eraill o Brydain.

“Ar ôl casglu tystiolaeth gan ddwy ochr y ddadl, daeth y Pwyllgor Cyfianwder i’r casgliad fod angen i’r ddeddf gael ei hadolygu.  Yn eu hymateb, fodd bynnag, mae’r Llywodraeth yn dweud:

‘the Government considers that committing resources to…a fundamental review of manorial rights as recommended by the Committee would at this time be disproportionate.’

“Rydw i’n croesawu mymryn bod potensial allai arwain at rywfaint o newid yn y pen draw:

‘The Law Commission has confirmed that it will consider the recommendations in respect of ending the use of unilateral notices in manorial rights applications.’

“Ond nid yw hyn yn newid fy nghred fod yr hawliau hyn yn perthyn i oes o’r blaen.

“Roeddwn yn falch dros y miloedd o bobl a effeithiwyd ar Ynys Môn ein bod wedi llwyddo i ganslo’r rhybuddion yn achos hawliau maenorol Treffos, ond mae’r poen meddwl a achosodd yn brawf nad oes lle i’r hawliau hyn yn yr 21ain ganrif.”