AC yn gofyn am gefnogaeth i Marina Caergybi ac i ddysgu gael eu gwersi ar ôl yr ymateb i storm Emma

Gofynnodd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth heddiw i Lywodraeth Cymru am ddiweddariad ar y gwaith clirio ar ôl storm Emma ym mhorthladd Caergybi.

Fodd bynnag, roedd yn siomedig gyda’r ymateb, yn enwedig o ystyried effaith amgylcheddol ac economaidd y difrod, a’r ffaith fod pryderon yn dal i gael eu lleisio gan bobl leol am yr ymdrechion clirio.

Yn ei gwestiwn i’r Ysgrifennydd Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn y Cynulliad heddiw, gofynnodd Rhun ap Iorwerth:

“Wrth edrych yn ôl, dwi’n meddwl fod rhai cwestiynau difrifol ynghylch cyflymder yr ymateb i’r hyn a ddigwyddodd yng Nghaergybi. Rwy’n credu ei bod yn eithaf clir ei fod o wedi bod, ac yn parhau i fod, yn fater amgylcheddol difrifol. Felly, efallai y gallech chi ein diweddaru a gollwyd cyfle i ymyrryd yn gynnar, i ddelio ag effeithiau amgylcheddol yr hyn a ddigwyddodd. A pha wersi a ddysgwyd, o ran sicrhau, os oes anghytundeb ynghylch pwy ddylai gymryd drosodd, y gall Llywodraeth Cymru neu’ch cyrff perthnasol ymyrryd?

“Yn ail, wrth edrych ymlaen, gan fod hynny’n hanfodol nawr, mae arnom angen sicrwydd ar yr hyn sy’n digwydd. Rwyf wedi clywed adroddiadau y bore yma o bobl yn dychwelyd o’r môr i Gaergybi am y tro cyntaf ers y digwyddiad, a chael eu synnu gyda’r hyn sydd ddim wedi cael ei wneud hyd yma. Mae angen sicrwydd arnom ynglyn ag ailadeiladu’r marina, ar help i unigolion a busnesau yr effeithiwyd arnynt, ac wrth gwrs ar yr angen i gamu ymlaen yn nhermau y gwaith clirio amgylcheddol, oherwydd mae llawer i’w wneud eto.”

Ar ôl y sesiwn gwestiynau, ychwanegodd:

“Roedd hwn yn ymateb siomedig arall gan Ysgrifennydd y Cabinet am ymateb Llywodraeth Cymru a’i asiantaethau i ddinistr storm Emma yng Nghaergybi. Mae pobl sy’n gweithio yn y marina, pobl sydd wedi colli cychod, a phobl sydd wedi bod ar draethau gogledd-orllewin Ynys Môn eu hunain i glirio polystyren oherwydd eu pryder am yr effaith amgylcheddol yn dweud wrthyf nad oedd yr ymateb yn ddigon cyflym, bod yna ddryswch dros pwy ddylai fod yn gwneud beth a bod y broblem yn dal i fodoli heddiw.

“Rwy’n gwerthfawrogi ystyriaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ynghylch cefnogaeth ariannol bosibl ar gyfer atgyweirio isadeiledd cyhoeddus, a glanhau difrod amgylcheddol, ond yr oeddwn yn gobeithio cael mwy o arweiniad gan y Llywodraeth ar hyn, yn enwedig o ystyried yr effaith ar yr amgylchedd ac ar yr economi leol yn Ynys Môn.”