AC Plaid yn beirniadu oedi o 95 munud i fynd a dyn i’r ysbyty ar ôl trawiad ar y galon

Rhun ap Iorwerth yn ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd ar ôl digwyddiad ym Mhorthladd Caergybi

Mae AC Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth wedi galw am ymchwiliad pam y cymrodd hi 95 munud i fynd a dyn o dan amheuaeth o fod wedi cael trawiad ar y galon o Borthladd Caergybi i’r ysbyty.

Mae AC Ynys Môn wedi galw am atebion gan Weinidog Iechyd Cymru, Mark Drakeford, wedi i Gapten Wyn Parry, Rheolwr Porthladdoedd De Môr Iwerddon i Stena, gysylltu â fo yn dilyn y digwyddiad.

Dywedodd swyddogion y porthladd wrth Rhun ap Iorwerth eu bod nhw wedi galw am yr ambiwlans am 1.45pm ar Hydref 7fed wedi i’r tîm cymorth cyntaf ar y Stena Adventurer ganfod fod angen cymorth meddygol ar frys ar y teithiwr.  Fe wnaeth staff alw 999 gan ddweud wrth staff ambiwlans fod y teithiwr yn dioddef o boenau ar ei frest ac yn ei chael hi’n anodd anadlu.

Fe wnaeth y cerbyd ‘ymateb cyntaf’ gyrraedd 30 munud yn ddiweddarach ac am 2.25pm, fe gadarnhaodd y parafeddyg fod y claf yn wir wedi dioddef episod cardiaidd a galwodd am ambiwlans. Roedd yn 45 munud cyn i’r ambiwlans gyrraedd a phum munud arall cyn i’r claf gael ei drosglwyddo o’r llong i Ysbyty Gwynedd.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Mae Caergybi yn borth trafnidiaeth hanfodol i’r Iwerddon ar gyfer teithwyr yng Nghymru a Lloegr ac mae’n hollol annerbyniol ei fod yn cymryd 95 munud i’r gwasanaeth ambiwlans fynd a chlaf i’r ysbyty.  Roedd y teithiwr yma’n ffodus iawn fod tîm cymorth cyntaf y llong wedi gallu rhoi cymorth iddo.

“Gwnaeth Capten Parry’r pwynt hefo mi fod hyn nid yn unig yn fater o ddiogelwch y teithwyr ond hefyd pawb sy’n gweithio yn y porthladd gan y gallent fod yn llefydd peryglus i weithio.  Mae’r digwyddiad hefyd yn codi cwestiynau pellach a yw’r ddarpariaeth ambiwlans yn ddigonol ar gyfer y rhai sy’n byw yng Nghaergybi.

“Rydw i’n gynyddol bryderus am y straen sydd yn cael ei roi ar staff ambiwlans ardderchog a’u gallu i ddarparu’r gwasanaeth y byddent yn hoffi ei wneud a’r un meant wedi cael eu hyfforddi i wneud.  Rydw i eisiau esboniad llawn gan y Gweinidog am pam y cymrodd hi mor hir i ymateb i’r sefyllfa ddifrifol yma.

“Mae pobl Caergybi a’r porthladd ei hun angen sicrwydd gan y Gweinidog am berfformiad y gwasanaeth ambiwlans yn y dyfodol.”