AC lleol yn cynnig diwrnod cysgodi yn y Cynulliad Cenedlaethol i fenywod ifanc yn Ynys Môn

Mae’r dyddiad cau yn nesáu ar gyfer cysgodi Rhun ap Iorwerth gyda cheisiadau’n cau ddydd Gwener 31 Ionawr.

Drwy LeadHerShip Chwarae Teg, mae’r Aelod Cynulliad lleol Rhun ap Iorwerth yn annog merched ifanc yn Ynys Môn i ystyried gyrfa mewn gwleidyddiaeth a dysgu mwy am fywyd AC.

Mae LeadHerShip yn rhoi cyfle i fenywod ifanc 16-22 oed gysgodi Aelod Cynulliad am ddiwrnod a dysgu sut y gwneir penderfyniadau allweddol yng Nghymru. Mae’r diwrnod yn cynnwys cael cipolwg ar fywyd bob dydd AC, dysgu sut mae’r Cynulliad yn gweithio, sesiwn holi ac ateb gydag ACau benywaidd a ffug-ddadl, lle bydd y cyfranogwyr yn trafod profiadau menywod yng Nghymru heddiw.

Mae menywod yn dal i fod yn amlwg absennol o lawer o rolau gwneud penderfyniadau yng Nghymru; mae’r Cynulliad yn perfformio’n dda, gyda 47% o ACau yn fenywod, ond mae’r nifer yn is o lawer ar gyfer Aelodau Seneddol Cymru, sef 35%, a dim ond 28% o gynghorwyr lleol sy’n fenywod.

Mae Chwarae Teg eisiau gwneud yn siŵr bod lleisiau menywod yn cael eu clywed ar bob lefel o’r broses o wneud penderfyniadau, a bod menywod ifanc yn cael eu hannog i siarad am y materion sydd o bwys iddyn nhw. Mae LeadHerShip yn gobeithio ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr y dyfodol, ac annog mwy o ymgysylltiad â gwleidyddiaeth Cymru.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC “Nod LeadHerShip yw ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr drwy gynnig mewnwelediad unigryw i fywyd gwleidyddol Cymru. Rwy’n falch o fod yn cymryd rhan ac yn cynnig cyfle i ferched ifanc yn Ynys Môn i’m cysgodi, a dysgu mwy am y modd y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn eu cynrychioli.

“Mae’n hanfodol bod lleisiau menywod yn cael eu clywed wrth wneud penderfyniadau yng Nghymru, a thra bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud cynnydd mawr tuag at gynrychiolaeth gyfartal, mae mwy o waith i’w wneud. Rwy’n gobeithio y gall LeadHerShip chwalu’r rhwystrau rhag mynd i mewn i wleidyddiaeth, ac annog merched ifanc i ystyried rôl mewn gwleidyddiaeth eu hunain. ”

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am LeadHerShip 2020 yw dydd Gwener 31 Ionawr. Gall menywod 16-22 oed yn Ynys Môn sy’n dymuno cymryd rhan wneud cais yn https://chwaraeteg.com/projects/leadhership/#leadhership-national-assembly