AC: ‘Dylai Ynys Môn i gyd gael ei gysylltu’

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi galw am weithredu yn gynnar i sicrhau y gall POB ardal o Ynys Môn gysylltiad rhyngrwyd cyflym ar y cyfle cyntaf posibl.

broadband fibre

Yn ddiweddar, cynhaliodd Mr ap Iorwerth gyfarfod rhwng BT ac unigolion a busnesau sy’n cael problemau gyda chyflymder band eang.  Ar hyn o bryd mae BT yn gwneud cynnydd ar y rhaglen Cyflymu Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n ceisio cysylltu 96% o eiddo yng Nghymru erbyn Mehefin 2017 – blwyddyn yn ddiweddarach nag a gynlluniwyd yn wreiddiol.

Mae Rhun wedi galw ar Lywodraeth Cymru i nodi’r ardaloedd hynny sy’n debygol o golli allan o dan y Cynllun Cyflymu Cymru, fel y gall technolegau eraill gael eu rhoi yn eu lle.

Yn y Cynulliad yr wythnos hon, dywedodd Rhun wrth y Dirprwy Weinidog Sgiliau: “rydym yn dal i edrych ar sefyllfa lle na fydd gan un o bob 20 o eiddo yng Nghymru fynediad i fand eang cyflym iawn,”

Ychwanegodd: “Os, ar ddiwedd r holl aros maent yn mynd i gael gwybod nad ydynt wedi cael mynediad, yna byddai’n well iddynt gael gwybod hynny’n awr.”

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC, sy’n Weinidog Cysgodol Plaid Cymru ar yr Economi: “Mae’n hanfodol bod Ynys Môn wedi ei gysylltu yn llawn, ac wrth i dechnoleg ddatblygu drwy loeren, microdonnau, a thechnoleg data symudol y genhedlaeth nesaf, mae angen i ni sylweddoli nad cebl neu ffibr BT i’r eiddo yw’r unig ateb posib.

“Ar gyfer busnesau ac unigolion, cael cysylltiad cyflym sy’n bwysig, nid sut mae nhw’n cael y cysylltiad hwnnw.

“Os gallwn adnabod yn gynnar yr ardaloedd hynny na fydd y rhaglen Cyflymu Cymru yn eu cyrraedd, gallwn edrych ar ddefnyddio cymorth sydd ar gael gan y Llywodraeth i osod technolegau amgen.”