Dros 1,200 o gleifion ar restri aros orthopedig am dros flwyddyn yn y gogledd

Gallai ysgol feddygol Bangor fod yn rhan o’r ateb

Mae gwarth y ffaith fod dros 1,200 o gleifion yn gorfod aros dros 12 mis am driniaeth yng ngogledd Cymru yn datgelu methiant Llafur i gynllunio a rheoli’r GIG yn iawn, meddai Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Rhun ap Iorwerth.

Dengys y ffigyrau diweddaraf fod dros 1,200 o gleifion wedi aros dros 53 wythnos am driniaeth i gychwyn yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Mae cyhoeddiad ddoe nad yw’r llywodraeth Lafur yn gweld achos dros Ysgol Feddygol Bangor yn ergyd arall.

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Rhun ap Iorwerth:

“Ledled Cymru, gorfodir cleifion orthopedig i aros yn rhy hir am y driniaeth mae arnynt ei angen. Ond yn y gogledd, mae’r broblem yn ddifrifol. Cleifion yw’r rhain sydd yn aml mewn poen cronig, ac yn ei chael yn anodd symud. Mae eu gorfodi i aros dros flwyddyn am driniaeth yn hollol anfaddeuol.

“Bu amseroedd aros am driniaeth orthopedig yn y gogledd yn warthus o hir ers amser bellach, a bob tro yr wyf wedi codi’r mater hwn gydag Ysgrifennydd y Cabinet, cawsom sicrwydd ein bod wedi troi’r gornel. Ond does dim tystiolaeth wirioneddol o wella wedi ymddangos yn yr ystadegau.

“Dangosodd papur diweddar i fwrdd Betsi Cadwaladr fod cynyddu nifer y llefydd hyfforddi yn hanfodol i gryfhau’r gwasanaeth, ac eto, ddoe, dileodd y llywodraeth Lafur eu cynlluniau am ysgol feddygol yn y gogledd.

“Os ydym am gynyddu nifer y meddygon sy’n gweithio yng Nghymru, yna mae’n rhaid i ni gynyddu nifer y bobl sy’n hyfforddi yma. Yn amlwg, nid yw Llafur o ddifrif am gyrraedd y nod hwnnw.”