Blog Profiad Gwaith – Elin Lloyd Griffiths 17/07/17 – 21/07/17

Elin Lloyd Griffiths ydi fy enw i, a dwi’n ddisgybl Blwyddyn 12 yn Ysgol David Hughes. Yr wythnos yma, fe ges i’r profiad arbennig o fynd ar brofiad gwaith gyda Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth. Treuliais dri diwrnod yn y Swyddfa Etholaeth yn Llangefni yn gwneud amryw o bethau diddorol boed hynny yn ffocysu ar y broblem o fand llydan ar yr ynys i allu cael mynd i agoriad RSPB Cors Ddyga. Fe wnes i dreulio y ddau ddiwrnod arall yn y Cynulliad yng Nghaerdydd lle roeddwn i’n gallu gweld gyda fy llygad fy hun pa fath o bethau oedd yn digwydd yno. Fe wnes i sylweddoli yn eithaf sydyn ar ôl cyrraedd Tŷ Hywel pa mor wahanol ydi gwaith y Senedd yng Nghaerdydd o’i gymharu â’r gwaith sy’n cael ei wneud yn y Swyddfa Etholaeth yn Llangefni. Er hyn, fe wnes i wir fwynhau fy mhrofiad gwaith a rhoi fy hun mewn esgidiau gwleidydd am wythnos!

Fe ges i wrando ar drafodaeth Rhun a dynes yn cynrychioli Waters of Wales ar y bore dydd Llun. Roedd hi’n credu’n gryf y dylai pawb gael mynediad i unrhyw afon gan nad ydynt yn gwneud dim o’i le a’r cwbl maent eisiau ei wneud ydi mwynhau’r diwrnod a chael gwerthfawrogi yr harddwch naturiol sydd ar gael. Roedd hi’n sefyllfa eithaf anodd oherwydd ochr arall y geiniog i hyn wrth gwrs ydi nad ydi tirfeddianwyr yn mynd i ganiatáu i bawb fynd a thresmasu ar eu tir. Yn ogystal â hyn, fe ges i hefyd y profiad o fynd i agoriad RSPB Cors Ddyga ar y dydd Llun hefyd gan mai Rhun oedd yn agor y warchodfa. Cawsom glywed Côr Ysgol Esceifiog yn canu a dadorchuddio cerflun Aderyn y Bwn a oedd wedi cael ei gomisiynu yn arbennig i gofio am un o uchafbwyntiau’r warchodfa sef bod Aderyn y Bwn wedi nythu yno yn 2016 am y tro cyntaf ers 32 mlynedd yng Nghymru.

Erbyn dydd Mawrth a dydd Mercher, roeddwn i yn Nhŷ Hywel yn swyddfa Rhun. Un o’r pethau cyntaf wnes i yn y fan hyn oedd darllen ymgynghoriad y Llywodraeth i ostwng yr oed pleidleisio i 16 oed mewn etholiadau lleol. Yn dilyn hyn, fe ges i’r cyfle i ysgrifennu datganiad i’r wasg ar y cyd efo Rhun yn dweud fy marn. Dwi’n ei gweld hi’n hynod annheg nad ydi pobl ifanc Cymru a Phrydain yn cael bod yn rhan o ddemocratiaeth y wlad oherwydd ein hoedran. Yn ogystal â hyn, mae hi’n hynod rhwystredig i bobl ifanc gan fod gwleidyddiaeth yn esblygu gymaint, yn enwedig yn y flwyddyn ddiwethaf yn benodol, ac er gwaetha’r ffaith fod y newidiadau hyn yn mynd i effeithio ein dyfodol ni, does ganddom ni ddim pleidlais i gynrychioli ein llais! Yn dilyn hyn, fe wnes i gael y cyfle i fynd i wrando ar gwestiynau’r Prif Weinidog yn Siambr y Senedd. Roedd hwn yn brofiad diddorol iawn oherwydd roeddwn yn gallu synhwyro ychydig o densiwn rhwng y pleidiau, a roeddwn yn hoff o sut roedd y pleidiau yn herio’r Prif Weinidog yn enwedig yn y cwestiynau lle nad oedd y Prif Weinidog wedi gallu paratoi iddynt! Cefais y cyfle hefyd i gyfieithu colofn Rhun ar gyfer yr ‘Holyhead and Anglesey Mail’ am bwysigrwydd ieithoedd tramor, ac roedd hyn yn fuddiol iawn yn enwedig am fy mod i eisiau astudio ieithoedd yn y Brifysgol. Roedd fy mhrofiad yn y Cynulliad yng Nghaerdydd yn fuddiol dros ben. O fynd i wrando ar y Pwyllgor Iechyd yn trafod i allu cael bod yn rhan o drafodaeth ynglŷn â Brexit, fe ges i agoriad llygad o weld pa mor wahanol oedd y gwaith yma i waith y Swyddfa Etholaeth, ond hefyd, pa mor ddiddorol ydi gwleidyddiaeth yng Nghymru ar y funud.

Roeddwn i nôl yn y Swyddfa Etholaeth yn Llangefni erbyn dydd Iau, ac fe wnes i ysgrifennu llythyr ar ran y Blaid yn ymwneud â’r broblem Band Llydan yn gwahodd trigolion Ynys Môn i ddod i ddigwyddiad er mwyn gweld os ydyn nhw yn gymwys i dderbyn band eang Ffeibr i’r Adeilad, yn ogystal â llunio poster yn hysbysebu’r digwyddiad. O ran dydd Gwener, roeddem ni yn Llanfairpwll i ddechrau er mwyn i Rhun gael tynnu llun gydag un o’r cofebion rhyfel yn y Capel, ac yn dilyn hynny, fe ges i fynd i agoriad swyddogol y Bwrdd Dŵr ar gyfer y cronfeydd dŵr yn Alaw a Chefni. Mae £15,000,000 wedi cael ei fuddsoddi yn Alaw a £13,000,000 yng Nghefni, a braf ydi cael gweld buddsoddiad yn digwydd ar yr ynys.
Mae hi wedi bod yn wythnos hynod o ddiddorol a buddiol dros ben. O gael mynd i wrando ar gwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd yng Nghaerdydd i gael mynd i agoriad swyddogol RSPB Cors Ddyga ar yr ynys, dwi wedi cael amrywiaeth o brofiadau sydd wedi fy ngalluogi i feddwl am y math o swyddi sydd ar gael yn y byd gwleidyddol. Diolch yn fawr i Rhun, Non, Francess a Heledd am y cyfle a’r profiad.