Werth ymweld â Thyddyn Môn

Cafodd AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth groeso cynnes ar ei ymweliad diweddar â Thyddyn Môn ym Mrynrefail, lle cyfarfu â’r Prif Weithredwr newydd, Dr Michelle Freeman.  Yn siarad ar ôl ei ymweliad, bu’n annog eraill i ymweld â’r fferm:

Tyddyn Môn

Tyddyn Môn

“Diolch yn fawr iawn i bawb yn Nhyddyn Môn am y croeso cynnes a gefais yn ddiweddar ac mae Mrs Iorwerth yn ddiolchgar iawn am ei pherlysiau hi!

“Dymunaf yn dda i’r Prif Weithredwr newydd, Dr Michelle Freeman.  Mae nhw’n chwilio am ffyrdd newydd o ddod ag arian i mewn i gynnal eu gwaith da nhw hefo pobl sydd ag anghenion dysgu.  Ewch draw yno –  mae’n le da i dreulio awran neu ddwy.”