Fideo: Rhun yn dweud fod angen gwella signal ffonau symudol mewn ardaloedd gwledig fel Môn

Yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn y Cynulliad ddoe, fe dynodd AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth sylw at y signal ffonau symudol gwael mewn ardaloedd fel Ynys Môn. Dywedodd:

“Er bod ardaloedd gwledig fel Ynys Môn yn talu’r un faint â phawb arall ym Mhrydain am eu gwasanaeth ffôn symudol, maen nhw’n aml iawn yn cael gwasanaeth eilradd. I ddweud y gwir, mae rhai yn talu mwy am ffôn symudol mewn rhywle fel Ynys Môn—rhai yn talu am ddau ffôn, un ar gyfer y gwaith, un ar gyfer y tŷ; rhai yn talu am focs i gryfhau’r signal; ac eraill hyd yn oed yn gorfod talu ‘roaming charges’ oherwydd bod y signal o Iwerddon yn gryfach na’r signal sydd yn Ynys Môn. Mae’r ‘Daily Post’ ar hyn o bryd yn rhedeg ymgyrch i geisio gwella signal yn y gogledd, ac mi oeddent yn datgelu ffigurau ddoe ynglŷn â ‘coverage’ 4G: rwy’n meddwl yr oedd yr Iseldiroedd ar 83 y cant, Prydain ar 53 y cant a Chymru ar 20 y cant. O ystyried bod cysylltedd yn beth mor bwysig yng nghefn gwlad, beth sydd wedi rhwystro Llywodraeth Cymru rhag gallu annog cwmnïau ffonau symudol i wneud mwy i ddarparu gwell gwasanaeth a signal yng nghefn gwlad ac yn Ynys Môn?”