Angen bwrw ymlaen ar frys i recriwtio meddygon

Plaid Cymru yn rhybuddio am yr angen dybryd i weithredu eu cynllun am fil o feddygon

Heb ymdrech bendant i gynyddu nifer y meddygon sy’n gweithio yng Nghymru gallai’r GIG wynebu eu gaeaf anoddaf eto, rhybuddiodd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd, Rhun ap Iorwerth.

Dros y tair blynedd diwethaf, disgynnodd nifer y meddygon teulu yng Nghymru o ryw 30. Yn y cyfamser, soniodd 97% o bob practis meddyg teulu fod cynnydd wedi bod yn y galw am apwyntiadau.

Galwodd Rhun ap Iorwerth ar i’r llywodraeth weithredu ar unwaith i roi cychwyn ar gynllun Plaid Cymru i hyfforddi a recriwtio mil o feddygon yn ychwanegol i’r GIG, neu fe allai’r gwasanaeth wynebu’r gaeaf mwyaf anodd hyd yma.

Meddai Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd, Rhun ap Iorwerth:

“Mae’r galw am wasanaethau iechyd yn cynyddu tra bod nifer ein meddygon teulu yn gostwng. Oni fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar unwaith i gynyddu nifer y meddygon, gallai’r GIG wynebu eu gaeaf mwyaf anodd hyd yma.

“Bob gaeaf, mae’r galw am wasanaethau yn codi, ond eleni dyma ni’n nesau at gyfnod oeraf y flwyddyn gyda llai o feddygon teulu na thros y tair blynedd diwethaf. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i gynllun ar fyrder.

“Dywed Llywodraeth Cymru wrthym fod ganddynt fwy o feddygon nac erioed o’r blaen yn gweithio yn y GIG, ond fe wyddom mai yn rhan amser y mae llawer o’r rhain yn gweithio. Mae nifer y meddygon teulu yn benodol wedi disgyn, ac y mae gwadu hyn yn gwneud tro gwael â holl weithlu’r GIG sy’n cael ei wthio i’r eithaf i gwrdd â galwadau ar weddill y gwasanaeth oherwydd prinder meddygon teulu.

“Byddai gweithredu ar unwaith i gychwyn rhoi ar waith gynllun Plaid Cymru i hyfforddi a recriwtio mil o feddygon yn ychwanegol i’r GIG yn cynyddu nifer y meddygon sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn gyflym ac yn gynaliadwy. Rydym eisiau gweld mwy o lefydd yn ysgolion meddygol Cymru, ac yr ydym am roi cymhellion i feddygon weithio mewn ardaloedd lle mae’n anodd recriwtio fel bod gwasanaethau ym mhob rhan o Gymru yn cael eu cryfhau.”