Tîm Rygbi’r Cynulliad yn lansio’u hymgyrch Cwpan Rygbi Senedd-dai’r Byd 2015

Wrth i Gymru edrych ymlaen at ddechrau Cwpan Rygbi’r Byd, mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn edrych ymlaen at gael cynrychioli ei wlad wrth iddo ymuno â thîm rygbi’r Cynulliad ar gyfer lansiad eu hymgyrch ar gyfer Cwpan Rygbi Senedd-dai’r Byd y penwythnos hwn.

Bydd y tim o Gymru yn chwarae eu gêm cyntaf ar ddydd Sul yn Ysgol Rugby – ar yr union gae y cafodd y gêm ei dyfeisio.  Bydd gwrthwynebwyr y tim yn cael eu cyhoeddi yn y Seremoni Agoriadol ar ddydd Sadwrn.

Tîm Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi fydd yn croesawu pawb, gan gynnwys deiliaid y gwpan Seland Newydd a thimau seneddol o amgylch y byd – gan gynnwys Awstralia, Ffrainc, yr Ariannin, De Affrica a Siapan.

Mae Rygbi’r Cynulliad wedi bod yn codi arian ar gyfer yr elusen Bowel Cancer UK ers deng mlynedd, ac yn ddiweddarach eleni fe wnaethant godi dros £6,000 mewn buddugoliaeth dros dîm Tai’r Cyffredin a’r Arglwyddi.

Dywedodd Mr Ap Iorwerth:

“Ar ôl dod i dermau gyda phenderfyniad Warren Gatland i beidio fy enwi yn sgwad Cymru’r Haf yma, dyma’r agosaf y gallaf ddod at gynrychioli fy ngwlad mewn rygbi a dwi’n edrych ymlaen yn arw.

“Mae’r tîm yn codi arian ar gyfer achos da a gobeithio y gallwn ddod a chlod i’n gwlad yn ogystal a chodi arian ar gyfer Bowel Cancer UK.

“Dyma’r tro cyntaf i Rygbi’r Cynulliad gystadlu yn y bencampwriaeth ac rydym yn edrych ymlaen at hyrwyddo rygbi seneddol, ystod o achosion da ac ymwybyddiaeth o’r gwaith mae Bowel Cancer UK yn ei wneud.”

Rhun rygbi