Swyddfa newydd eich cynrychiolwyr Plaid Cymru lleol

Cafodd swyddfa etholaeth newydd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth ei agor yn swyddogol heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 17eg).

Bydd yr adeilad yn 1b Stryd yr Eglwys hefyd yn ganolfan i’r Aelod Seneddol Ewropeaidd dros Gymru, Jill Evans, yn y gogledd orllewin, yn ogystal â swyddfa leol Plaid Cymru.

Mae’r adeilad wedi cael ei enwi yn ‘Tŷ Ieuan’ fel teyrnged i waith AS ac AC Plaid Cymru cyntaf Ynys Môn, Ieuan Wyn Jones, a fydd hefyd yn bresennol i agor y swyddfa’n swyddogol.

Dywedodd AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth:

“Yn ychwanegol i’r cymorthfeydd rheolaidd rydw i’n eu cynnal ar draws yr ynys, bydd Tŷ Ieuan yn ganolfan delfrydol ar gyfer fy ngwaith yn cynrychioli’r ynys fel AC, a hefyd ar gyfer gwaith Plaid Cymru yn ymgyrchu ar ran cymunedau’r ynys.”

Ychwanegodd Jill Evans ASE:

“Mae ar Gymru angen llais cryf yn Ewrop ac i mi mae hyn yn golygu cydweithio gyda Rhun ap Iorwerth a phobl Ynys Môn.  Bydd Tŷ Ieuan yn ganolfan gwerthfawr er mwyn i mi allu parhau i wthio am gyllid UE i wella’r A55 a chysylltiadau rheilffordd ar Ynys Môn yn ogystal â meithrin cysylltiadau Caergybi gyda gweddill Ewrop drwy’r cyswllt i’r Iwerddon.”

Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi Huws, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ynys Môn:

“Mae’n amser cyffrous gydag agoriad swyddogol Tŷ Ieuan i ni fel Plaid ym Môn.  Mae Tŷ Ieuan yn ganolfan cyswllt hanfodol i bobl Môn gyda’u Cynghorwyr, Aelod Cynulliad ac Aelod Ewropeaidd.  Mae’n ddefnyddiol inni fel Grŵp o Gynghorwyr cael defnyddio’r adeilad i gynnal ein cyfarfodydd Grŵp.”