AC yn gofyn am ddiweddariad am groesiad y Fenai

Gofynnodd Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth i’r prif Weinidog am y wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer trydydd croesiad ar draws y Fenai.

Yn ystod Cwestiynau i’r prif Weinidog yr wythnos hon, cafodd Rhun gadarnhad ganddo eu bod nhw’n dal ar amser i gwblhau’r prosiect yn 2022. Gofynnodd ymhellach ynglŷn â thrafodaethau Llywodraeth Cymru gyda’r Grid ac am bwysigrwydd ymgynghori’n llawn gyda phobl leol am lwybrau posib. Yn siarad yn y Senedd, dywedodd Rhun:

“Rydw i’n falch ein bod ni, yn ein cytundeb cyn y gyllideb, wedi gallu sicrhau arian i ddatblygu’r prosiect yma, sydd ei angen nid dim ond oherwydd rhwystredigaeth bod pobl yn gorfod oedi cyn croesi’r bont yn aml ond er mwyn adeiladu gwytnwch i’r croesiad rhwng Môn a’r tir mawr.

“Ym Mehefin y llynedd, rydw i’n meddwl, fe wnes i’r achos yn y Siambr yma dros drio sicrhau bod y Grid Cenedlaethol yn gwneud cyfraniad helaeth tuag at y bont yn hytrach na gwastraffu arian—o bosib £100 miliwn, £200 miliwn—yn rhoi twnnel o dan y Fenai. Rŵan bod y dyddiad cwblhau, yn hytrach na’r dyddiad dechrau, yn 2021-22, a allwn ni gymryd hynny fel arwydd bod Grid Cenedlaethol wedi cytuno i wneud y cyfraniad yma erbyn hyn, ac mai chwilio am fodel o sut i wireddu hynny ydy hynny? A hefyd, a allaf i gael sicrwydd y bydd ymgynghori ar y cynllun yn digwydd mor eang ac mor llawn â phosib efo’r etholwyr yn Ynys Môn?”

Yn ei ymateb, dywedodd y Prif Weinidog:

“Nid oes yna unrhyw fath o gytundeb eto. Fe wnes i godi hwn gyda’r grid tua dwy neu dair blynedd yn ôl. Bryd hynny, roeddem ni eisiau ystyried gyda nhw ym mha ffordd y gallem ni ddatblygu croesiad i’r Fenai. Bryd hynny, nid oedd diddordeb gyda nhw. Maen nhw wedi newid ers hynny, ond nid ydym ni mewn sefyllfa lle rydym ni’n gallu dweud, ‘Mae yna gytundeb’. Erbyn mis Mai, wrth gwrs, blwyddyn nesaf, byddwn ni yn cyhoeddi beth yw’r llwybr rydym ni eisiau ei gymryd er mwyn i’r bont gael ei hadeiladu. Erbyn hynny, wrth gwrs—yn bell cyn hynny, gobeithio—byddwn ni mewn sefyllfa lle rydym ni’n gwybod beth yw sefyllfa’r grid, a pha fath o gyfraniad maen nhw’n fodlon rhoi i’r bont.”